Genomeg a biowybodeg
Mae ein tîm genomeg a biowybodeg hynod fedrus yma i gynnig gwasanaeth cynhwysfawr i chi.
P’un a ydych chi’n chwilio am wasanaeth genomeg a reolir yn llawn, neu am gael cyngor ar ddewis technoleg, paratoi sampl, neu asesu ansawdd sampl, rydym ni yma i’ch helpu chi.

qPCR amser go iawn a llwyfannau microaraeau
Rydym ni’n ddarparwr gwasanaeth awdurdodedig ar gyfer Thermo Fisher Scientific i qPCR.
- Llwyfannau microarae Affymetrix ac Illumina
- Proffilio mynegiant genynnau
- Dadansoddi MicroRNA a dadansoddi methylu
- Gwerthuso ansawdd RNA
- Rhediadau PCR graddfa fawr, amser go iawn mewn fformat 96 a 384 pant (ABI QuantStudio 12k a ViiA7)
- Araeau Dwysedd Isel TaqMan (TLDAs
Biowybodeg
Rydym ni’n cynnig cyngor a hyfforddiant biowybodeg ar bopeth o ddylunio prosiectau i storio a dadansoddi data.
- Cefnogaeth fiowybodeg lawn ar gyfer data microaraeau a dilyniannu’r genhedlaeth nesaf (NGS)
Cysylltu â ni
Cysylltwch â ni i drafod sut gallwn ni gefnogi eich gwaith ymchwil:
Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog
Cwsmeriaid presennol
Os ydych chi eisoes wedi cofrestru ar ein system archebu cyfarpar, mewngofnodwch i archebu.