Ewch i’r prif gynnwys

Astudio gyda ni

Rydym wedi datblygu llwybr israddedig rhyngddisgyblaethol ym maes dadansoddeg gymdeithasol, yn ogystal â rhaglen uchelgeisiol o ymgysylltu ar lefel Safon Uwch, drwy gymhwyster Lefel 3 y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau.

Er mwyn gwella cymhwysedd meintiol ein myfyrwyr israddedig, rydym wedi creu rhaglen radd graidd arbenigol, lle mae ailddefnyddio modiwlau ar raglenni eraill yn datblygu diwylliant o wyddor gymdeithasol feintiol.

Yn ogystal, gwnaethom gydnabod bod angen rhoi rhaglen uchelgeisiol o beirianneg gymdeithasol ar waith hefyd er mwyn gwella cymhwysedd cyffredinol myfyrwyr. I wneud hyn, roeddem eisiau creu carfan wahanol o fyfyrwyr y gellir eu recriwtio i astudio BSc Dadansoddeg Gymdeithasol. Cynlluniwyd cymhwyster Lefel 3 y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau newydd (yn cyfateb i lefel UG) gyda’r nod hwn mewn golwg.

Dadansoddeg gymdeithasol

Llwybr rhyngddisgyblaethol sy’n cyfuno hyfforddiant trylwyr mewn dulliau meintiol a llythrennedd ystadegol gyda chyfleoedd lleoli a modiwlau o feysydd cymdeithaseg, troseddeg, addysg, polisi cymdeithasol a gwleidyddiaeth.

Cwrs Lefel 3 y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau ym maes dadansoddeg gymdeithasol

Mae’r cwrs hwn yn dysgu pwysigrwydd data cymdeithasol i fyfyrwyr, ac mae wedi’i gynllunio i gynnig llwybrau dilyniant i addysg uwch.