Ewch i’r prif gynnwys

Dadansoddeg gymdeithasol

Rydym wedi datblygu’r llwybr BSc Dadansoddeg Gymdeithasol rhyngddisgyblaethol er mwyn cyfuno hyfforddiant trylwyr mewn dulliau meintiol a llythrennedd ystadegol gyda chyfleoedd lleoli a modiwlau o feysydd cymdeithaseg, troseddeg, addysg, polisi cymdeithasol a gwleidyddiaeth.

Rydym eisiau rhoi’r cyfle i chi archwilio materion cymdeithasol trwy ddadansoddi data cymdeithasol meintiol ac astudio’r dulliau a ddefnyddir i gasglu data o’r fath. Gallai enghreifftiau o’r materion cymdeithasol gynnwys:

  • cyrhaeddiad addysgol
  • ymfudo
  • tlodi
  • cyfraddau troseddu
  • ymddygiad o ran pleidleisio

Mae astudio BSc Dadansoddeg Gymdeithasol yn cynnig cyfle unigryw i chi gyfuno cyfres sylweddol o fodiwlau dewisol gyda hyfforddiant o’r radd flaenaf mewn dulliau meintiol, a addysgir gan staff o’r ganolfan.

Lleoliad gwaith

Caiff myfyrwyr BSc Dadansoddeg Gymdeithasol warant o leoliad gwaith gyda sefydliadau perthnasol, megis y Swyddfa Ystadegau Gwladol neu Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn eich helpu i fwyhau eich cyflogadwyedd drwy gymhwyso’r hyn rydych wedi’i ddysgu ar y cwrs ac yn y gweithle.

Roedd y ffaith fy mod yn gallu cwblhau lleoliad gwaith gwarantedig yn ystod fy ail flwyddyn yn rhywbeth â’m denodd yn arbennig, oherwydd roeddwn yn meddwl y byddai hyn o gymorth i’m gyrfa yn y dyfodol. Mae mantais ychwanegol i astudio BSc Dadansoddeg Gymdeithasol, sef dysgu sgiliau dadansoddi penodol y mae busnesau wedi dweud nad oes gan raddedigion yn y gweithle. Mae'r cwrs hwn wedi aildanio fy mrwdfrydedd ar gyfer dysgu ac astudio.

Myfyriwr blwyddyn gyntaf BSc Dadansoddeg Gymdeithasol