Ewch i’r prif gynnwys

Gweithgarwch ymgysylltu

Pedair o ferched Blwyddyn 10 yn chwerthin gydag aelod o staff sy’n cynnal gweithdy data yn yr Ysgol Haf ym mis Gorffennaf 2014.
Myfyrwyr Blwyddyn 10 mewn gweithdy data yn Ysgol Haf 2014.

Rydym wedi datblygu sawl partneriaeth gydag ysgolion, colegau a sefydliadau yn ne Cymru er mwyn datblygu a dysgu cymhwyster Lefel 3 ar y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau ym maes dadansoddeg gymdeithasol, yn ogystal â chynnal digwyddiadau er mwyn ennyn diddordeb myfyrwyr ysgolion a cholegau yn y pwnc.

Dyma rai o’r sefydliadau rydym wedi gweithio gyda nhw:

Mae’r ysgolion a’r colegau rydym wedi gweithio gyda nhw yn cynnwys:

  • Coleg Caerdydd a'r Fro
  • Coleg y Cymoedd
  • Ysgol Gyfun Bryn Hafren
  • Ysgol Uwchradd Babyddol Mair Ddifrycheulyd
  • Coleg Chweched Dosbarth Dewi Sant
  • Ysgol Abersychan

Digwyddiadau ymgysylltu

Rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau er mwyn ymgysylltu ag athrawon a myfyrwyr mewn ysgolion ar draws de Cymru:

  • Cynhadledd Bagloriaeth Cymru 2016: Y Prosiect Unigol
  • Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol – byd llawn data
  • Cynhadledd Bagloriaeth Cymru 2015
  • Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol – pam dulliau meintiol?
  • Lansio cynllun peilot Lefel 3 y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau mewn dadansoddeg gymdeithasol
  • Ysgol Haf ar Ddata 2014
  • Cynhadledd i ddarlithwyr addysg uwch: ‘Lies, damned lies and statistics’
  • Cynhadledd i athrawon addysg bellach: Llythrennedd ystadegol