Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom

Rydym yn rhan o raglen Q-Step ledled y DU gwerth £19.5 miliwn a gynlluniwyd er mwyn hybu newid sylweddol yn hyfforddiant y gwyddorau cymdeithasol.

Datblygwyd Q-Step fel ymateb strategol i brinder graddedigion yn y gwyddorau cymdeithasol sydd â sgiliau meintiol. Fel rhan o’r rhaglen, mae 15 o brifysgolion ledled y DU yn cynnig rhaglenni israddedig arbenigol, gan gynnwys cyrsiau newydd, lleoliadau gwaith a llwybrau tuag at astudio pynciau ôl-raddedig.

Bydd adnoddau ac arbenigedd yn cael eu rhannu ar draws y sector addysg uwch drwy’r rhaglen gymorth gysylltiedig, a fydd hefyd yn meithrin cysylltiadau ag ysgolion a chyflogwyr.

Ariennir y rhaglen gan Sefydliad Nuffield, y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE).

Rhagor o wybodaeth am Q-Step ledled y DU.

Ein llwyddiannau

Rydym wedi datblygu llwybr BSc Dadansoddeg Gymdeithasol rhyngddisgyblaethol sy’n cyfuno hyfforddiant trylwyr mewn dulliau meintiol gyda modiwlau sylweddol o faes cymdeithaseg, troseddeg, addysg neu bolisi cymdeithasol.

Rydym wedi gwella cymhwysedd meintiol pob un o’n myfyrwyr israddedig yn sylweddol, ac erbyn iddynt orffen eu gradd, mae ganddynt sgiliau gweithredol mewn ymchwil arolygon, dehongli a thrin data, ystadegau disgrifiadol a dadansoddi data.

Fodd bynnag, nid yw hyn yn ddigonol yn y tymor canolig, ac rydym yn gweld bod angen creu carfan wahanol o fyfyrwyr y gallem eu recriwtio i astudio BSc Dadansoddeg Gymdeithasol. O ganlyniad, rydym wedi creu cymhwyster Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (FfCCh) Lefel 3 newydd (yn cyfateb i lefel UG) ym maes dadansoddeg gymdeithasol, a gefnogir gan CBAC, Canolfan Addysg Ystadegol y Gymdeithas Ystadegol Frenhinol (RSSCSE), a chonsortiwm o ysgolion a cholegau yn ne Cymru.

Cysylltu â ni

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth ynghylch astudio BSc Dadansoddeg Gymdeithasol neu i gymryd rhan yn ein gwaith mewn ysgolion:

Canolfan Q-Step Caerdydd