Ewch i’r prif gynnwys

Arloesedd Gofal Iechyd

Sut yr arweiniodd partneriaeth gyda’r Ysgol Meddygaeth at greu rhaglen arloesol i gleifion sy’n dioddef Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD).

Ymyriadau hunangymorth ar-lein

HLC KTP

Mae Healthcare Learning (Smile:on) Ltd yn datblygu, yn marchnata ac yn gwerthu rhaglenni hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Maent yn cydweithio â sefydliadau dysgu gofal iechyd, academyddion blaenllaw ac ymarferwyr i gynhyrchu’r addysg ddiweddaraf yn y modd mwyaf hwylus.  Roedd y cwmni yn awyddus i arallgyfeirio eu portffolio presennol o fentrau gofal iechyd ar-lein drwy symud i mewn i'r farchnad gofal iechyd ehangach, gan dargedu meysydd meddygol cyffredinol ac ymyriadau hunangymorth ar y we.

Mae’r Athro Jonathan Bisson o’r Ysgol Meddygaeth yn arbenigwr ym maes straen wedi trawma. Gyda chymorth ei gydweithwyr, mae wedi datblygu teclyn hunangymorth dan arweiniad i drin cleifion sy'n dioddef achosion ysgafn i gymedrol o Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD).

Cafodd Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth ei sefydlu a fyddai'n cyfuno arbenigedd y cwmni ym maes cynhyrchu rhaglenni dysgu rhyngweithiol ar y we â phrofiad y tîm academaidd o ddatblygu a gwerthuso ymyriadau seicolegol ar gyfer PTSD. Y nod oedd pecynnu a datblygu’r rhaglen hunangymorth ymhellach fel teclyn hunangymorth ar-lein a chymryd cam arloesol ym maes darpariaeth gofal iechyd.

Cyfleoedd newydd yn y farchnad

Mae'r prosiect wedi galluogi'r cwmni i roi cynnig ar y farchnad feddygol ac, yn fwy penodol, marchnad y rhaglenni hunangymorth sydd ar y we. O dan reolaeth Dr Catrin Lewis, a astudiodd ei PhD gyda’r Athro Bisson ac aelod o’r tîm a ddatblygodd y teclyn, mae’r bartneriaeth wedi mynd o nerth i nerth wrth ddatblygu rhaglen therapi gwybyddol ymddygiadol y gellir ei marchnata sy’n targedu trawma yn benodol. Ar hyn o bryd, cynhelir arbrofion ar hap ar y rhaglen sydd wedi’u rheoleiddio.

Mae'r cwmni hefyd wedi elwa o gael arbenigwr pwnc ar y safle i weithio ochr yn ochr â’i arbenigwyr technegol. Maent wedi dysgu sut i gynhyrchu ymyriadau clinigol effeithiol sy'n bodloni'r gofynion a nodir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth ym Maes Gofal. Mae hyn wedi eu helpu i ennill cyfran o farchnad hunangymorth ar-lein sydd ar dwf.

Mae’r tîm academaidd wedi cael eu cyflwyno i ffyrdd gwahanol o feddwl e.e. pwysigrwydd cyflwyno’r cynnwys mewn ymyriadau. Disgwylir i bapurau i’w cyhoeddi mewn cyfnodolion dylanwadol gael eu cynhyrchu o ganlyniad i’r prosiect hefyd.