Ewch i’r prif gynnwys

Adeilad y Tŵr

Adeilad y Tŵr - Cerflun 'Mind's eye'
Adeilad y Tŵr - Cerflun 'Mind's eye'

70 Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Mae prif fynedfa Adeilad y Tŵr ar Blas y Parc. Mae yna set o stepiau gyda chanllawiau ar y ddwy ochr a lifft allanol ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. Bydd y lifft yn gweithredu gyda cherdyn adnabod Prifysgol Caerdydd. Os oes angen defnydd cyson o’r lifft, ebostiwch estate-accessibility@caerdydd.ac.uk

Bydd angen i ymwelwyr a defnyddiwr anghyson y lifft ffonio diogelwch ar 029 2087 4444. Mae yna fynediad gwastad o Adeilad y Tŵr i ardal deciau Gwyddorau Biofeddygol drwy ddrysau awtomatig i’r chwith o’r brif fynedfa.

Mae desg y dderbynfa gyferbyn â’r Brif fynedfa wedi’i osod â chylchwifren ar gyfer pobl gyda nam ar y clyw. Mae yna ddau lifft sy’n mynd i bob llawr yn Adeilad y Tŵr, fodd bynnag, mae yna fynediad cyfyngedig i’r llawr cyntaf a’r ail. Byddwch yn derbyn allwedd wrth y dderbynfa i gael mynediad i’r lloriau hyn.

Mae ffreutur y Tŵr wedi’i leoli ar y llawr gwaelod, gyferbyn â’r brif fynedfa. Mae yna siop gydag ardal seddi ac mae cyfrifiaduron ar gael ar gyfer mynediad i’r we.

Mae toiledau hygyrch neillryw ar gael ar y llawr gwaelod a’r trydydd llawr. Mae toiled 0.06, ar y llawr gwaelod wedi’i leoli i’r chwith o’r brif fynedfa, trwy ddrysau dwbl awtomatig. Toiled y trydydd llawr yw rhif ystafell 3.06.

Parcio

Mae yna barcio ar gael ar hyd stryd Plas y Parc a Rhodfa’r Amgueddfa ar gyfer ymwelwyr ac ymwelwyr anghyson yr adeilad, lle gall deiliaid Bathodyn Glas parcio am ddim.

Cysylltwch â diogelwch am unrhyw ymholiadau parcio i staff.

Parcio ar gyfer beiciau

Mae yna 30 lle parcio beic a rannir rhwng dau leoliad o amgylch yr adeilad.

Parcio Car