Ewch i’r prif gynnwys

Tŷ McKenzie

30-36 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0DE

Gallwch gael mynediad i’r brif fynedfa o Heol Casnewydd (mynediad drwy stepiau) a Howard Place (mynediad lefel ar y stryd). Mae mynediad i gerbydau i Dŷ McKenzie drwy Howard Place, o Heol Casnewydd.

O’r cwrt blaen, mae mynediad lefel i Brif fynedfa Tŷ McKenzie. Mae drysau'r brif fynedfa yn ddrysau llithro awtomatig. Gallwch gael mynediad drwy’r ail set o ddrysau gyda cherdyn adnabod y Brifysgol yn unig.

Mae’n rhaid i bob ymwelydd i lofnodi i mewn ac allan o’r adeilad yn y dderbynfa. Mae yna adran isel ar ochr ardal y dderbynfa. Mae desg y dderbynfa wedi’i osod â chylchwifren i helpu pobl gyda nam ar y clyw. I ddefnyddio’r cylchwifren, defnyddiwch y gosodiad ‘T’ ar eich dyfais clyw.

Mae yna ddau doiled hygyrch ar y llawr gwaelod. Mae un toiled wedi’i leoli heibio desg y dderbynfa a’r lifftiau, gyferbyn â’r brif fynedfa. Mae’r ail doiled wedi’i lleoli i’r dde o’r dderbynfa, lawr y coridor ar y chwith.

Mae yna doiled hygyrch ar y trydydd llawr. Mae’r toiled wedi’i lleoli, heibio’r lifftiau, trwy ddrws ar y chwith cyn ardal y ffreutur. Mae gan y llawr gwaelod a’r trydydd llawr toiledau dynion a menywod. Mae yna doiledau i ddynion yn unig ar y llawr cyntaf a thoiledau i fenywod yn unig ar yr ail lawr. Mae yna doiledau i fenywod yn unig ar y pedwerydd llawr a thoiledau i ddynion yn unig ar y pumed llawr. Mae yna doiledau i fenywod yn unig ar y chweched llawr a thoiledau i ddynion yn unig ar y seithfed llawr. Mae yna doiledau i fenywod yn unig ar yr wythfed llawr a thoiledau i ddynion yn unig ar y nawfed llawr. Mae yna doiledau i fenywod yn unig ar y degfed llawr a thoiledau i ddynion yn unig ar yr unfed ar ddeg llawr.

Mae yna dri lifft yn yr adeilad gyda mynediad i bob llawr. Mae botymau’r lifft wedi’i lleoli 1100mm o’r llawr. Mae tu fewn y lifft yn 1200mm x 1800mm. Mae yna ddrychau ar y ddau ochr o’r lifft. Mae botymau tu fewn y lifft rhwng 800mm a 1100mm o’r llawr. Mae botwm intercom argyfwng 1200mm o’r llawr.

Mae Siop Goffi wedi’i leoli ar y trydydd llawr ac mae’r siop ar agor rhwng 8:30yb a 3yh o ddydd Llun i Ddydd Gwener. Mae yna ddau beiriant gwerthu bwyd a diod wedi’u lleoli ar y trydydd llawr, ger yr ystafelloedd cyfarfod. Mae yna ardal seddi mawr ar y trydydd llawr.

Parcio

Mae meysydd parcio'r Brifysgol yn cael eu monitro gan camerâu adnabod rhifau car awtomatig (ANPR) a swyddogion patrol ar droed.

Rhaid i bob cerbyd modur sydd wedi'i barcio wneud cais i e-drwydded neu e-docyn talu wrth fynd dilys sy'n addas i'w ddefnyddio yn y lleoliad penodol.

Mae rhai meysydd parcio yn cynnig parcio Talu wrth fynd (PAYG) trwy RingGo, mae manylion y meysydd parcio hyn ar ein tudalen Parcio ar gyfer Ymwelwyr.

Mae ymwelwyr sy'n ddeiliaid Bathodyn Glas yn gymwys i barcio mewn man parcio hygyrch neu gyffredinol, yn rhad ac am ddim, ond mae'n ofynnol iddynt ddarparu eu rhif cofrestru i'r Tîm Gwasanaethau Teithio, Cludiant a Pharcio drwy anfon e-bost carparking@caerdydd.ac.uk dim hwyrach na 24 awr ar ôl iddynt gyrraedd.

Ar gyfer llefydd parcio eraill ar y stryd, ewch I caerdydd.gov.uk

Parcio ar gyfer beiciau

Mae yna 26 lle parcio beic a rannir rhwng dau leoliad o amgylch yr adeilad.

Parcio Car