Ewch i’r prif gynnwys

Tŷ Deri

Tŷ Deri
Tŷ Deri

2-4 Llwyn y Parc
Caerdydd
CF10 3BN

Gall gerbydau gael mynediad i Dŷ Deri o Faes St Andrew. Rydym yn argymell gollwng ar Lwyn y Parc, yn agos i’r ymyl palmant isel. Mae yna barcio talu ac arddangos ar hyd stryd Heol Llwyn y Parc. Gall ddeiliaid Bathodyn Glas barcio ar hyd Llwyn y Parc am ddim.

Mae mynediad drwy risiau i Dŷ Deri o Faes St Andrew. Mae yna 4 ris gyda chanllaw yn y canol. Mae gan ymylon bob gris gyferbyniad gweledol. Mae ymyl palmant ar gornel bob palmant. Mae yna oleddf isel iawn er mwyn cael mynediad i brif adeilad Tŷ Deri o Lwyn y Parc.

Mae yna un drws prif fynedfa i Dŷ Deri, sydd yn awtomatig. Mae’r ddesg dderbynfa yn y dderbynfa yn Nhŷ Deri, ymlaen i’r chwith. Mae’r ddesg yn isel ac mae staff ar gael yn ystod oriau agor. Rhif ffôn derbynfa Tŷ Deri yw +44 (0)29 2087 0112. Mae’r lefelau golau yn y dderbynfa yn dda.

Mae yna 3 toiled hygyrch yn Tŷ Deri ar y llawr gwaelod, yr ail a’r bedwaredd.

Mae yna 2 lifft yn Nhŷ Deri sydd â mynediad i’r 5 llawr. Mae botymau’r lifft ar uchder hygyrch. Mae gan y lifft ddangoswyr llawr gweledol a marciau cyffyrddol. Mae yna ddrych ar gefn y lifft er mwyn cynorthwyo wrth fynd yn ôl.

Parcio

Mae meysydd parcio'r Brifysgol yn cael eu monitro gan camerâu adnabod rhifau car awtomatig (ANPR) a swyddogion patrol ar droed.

Rhaid i bob cerbyd modur sydd wedi'i barcio wneud cais i e-drwydded neu e-docyn talu wrth fynd dilys sy'n addas i'w ddefnyddio yn y lleoliad penodol.

Mae rhai meysydd parcio yn cynnig parcio Talu wrth fynd (PAYG) trwy RingGo, mae manylion y meysydd parcio hyn ar ein tudalen Parcio ar gyfer Ymwelwyr.

Mae ymwelwyr sy'n ddeiliaid Bathodyn Glas yn gymwys i barcio mewn man parcio hygyrch neu gyffredinol, yn rhad ac am ddim, ond mae'n ofynnol iddynt ddarparu eu rhif cofrestru i'r Tîm Gwasanaethau Teithio, Cludiant a Pharcio drwy anfon e-bost carparking@caerdydd.ac.uk dim hwyrach na 24 awr ar ôl iddynt gyrraedd.

Ar gyfer llefydd parcio eraill ar y stryd, ewch I caerdydd.gov.uk

Prin yw'r parcio ar y campws

Parcio ar gyfer beiciau

Mae yna 20 o leoedd parcio beic a rennir rhwng dau leoliad o amgylch yr adeilad.

Parcio Car