Ewch i’r prif gynnwys

Anrhydeddu cynllun mentora ieithoedd mewn ysgolion

8 Tachwedd 2017

Threlford Cup
Professor Claire Gorrara, Academic Lead (right) and Lucy Jenkins, National Coordinator of the MFL Mentoring Project (left)

Mae Cwpan Threlford clodfawr wedi’i ddyfarnu gan Sefydliad Siartredig yr Ieithyddion i gynllun mentora unigryw a ddyluniwyd i annog pobl ifanc yng Nghymru i ddysgu ieithoedd.

Mae Cynllun Mentora Ieithoedd Tramor Modern, a arweinir gan Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae’n rhan o'i chynllun Dyfodol Byd-eang sy'n ceisio cynyddu nifer y disgyblion sy’n dewis ieithoedd modern mewn ysgolion yng Nghymru. Mewn partneriaeth â phrifysgolion Abertawe, Aberystwyth a Bangor, mae'r prosiect wedi mabwysiadu dull cenedlaethol o gynyddu dealltwriaeth rhyng-ddiwylliannol a hyrwyddo dysgu ieithoedd ar gyfnodau allweddol.

Mae Sefydliad Siartredig yr Ieithyddion yn dyfarnu Cwpan Threlford bob blwyddyn i unigolyn, sefydliad neu brosiect sydd wedi annog eraill i ddysgu iaith.

Eleni, yn dilyn enwebiadau gan werthuswr allanol, Teresa Tinsley a chydlynydd consortiwm Ieithoedd Tramor Modern De-ddwyrain Cymru, Sioned Harold, cyflwynwyd Cwpan Threlford i’r Cynllun Mentora gan Noddwr Brenhinol Sefydliad Siartredig yr Ieithyddion, y Tywysog Michael o Gaint GCVO, mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yng Nghymdeithas y Gyfraith yn Llundain.

"Rydym am i bob dysgwr allu siarad â phobl mewn ieithoedd eraill a deall a gwerthfawrogi eu diwylliannau eu hunain, yn ogystal â rhai eraill."

Kirsty Williams Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Mae’r cynllun wedi cael llawer o lwyddiant ers iddo ddechrau yn 2015, gan weithio gyda dros chwarter yr holl ysgolion uwchradd yng Nghymru. Mae myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern o brifysgolion Caerdydd, Abertawe, Bangor ac Aberystwyth wedi’u hyfforddi fel mentoriaid a hyfforddwyr. Wedi hynny, caiff y myfyrwyr-fentoriaid eu partneru ag ysgolion yn eu priod feysydd, a’u paru â mentoreion Cyfnod Allweddol 3. Mae myfyrwyr-fentoriaid yn cael sesiynau mentora a hyfforddi wythnosol ar gyfer eu mentoreion sy’n ddisgyblion, mewn grwpiau bach ar draws y flwyddyn academaidd.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r cynllun mentora wedi cael effaith sylweddol ar ysgolion partner sydd wedi nodi cynnydd yn nifer y disgyblion sy'n dewis ieithoedd ar lefel TGAU, yn ogystal â mwy o gymhelliant i barhau i ddysgu ieithoedd ac ystyried mynd i’r brifysgol.

Yn ôl Teresa Tinsley, a enwebodd y cynllun: “Mae hwn yn brosiect lle y bu pawb ar eu hennill. Mae wedi ehangu gorwelion ac adeiladu uchelgais mewn disgyblion. Ar yr un pryd, mae wedi rhoi sgiliau cyflogadwyedd a phrofiad y gall myfyrwyr eu defnyddio yn eu bywydau gwaith. Mae bob amser yn braf gweld prifysgolion yn cydweithio ag ysgolion, ac roedd y prosiect hwn wedi'i dargedu a’i drefnu’n arbennig o dda. Mae mor braf gweld hynny’n cael ei gydnabod yn genedlaethol.”

Yn ôl yr Athro Claire Gorrara, Pennaeth Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd ac arweinydd academaidd y prosiect: “Mae derbyn anrhydedd gan Sefydliad Siartredig yr Ieithyddion yn gyflawniad anferth i gynllun mentora Ieithoedd Tramor Modern..."

"Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gadarn yn eu cefnogaeth y dylid cefnogi dysgu ieithoedd ar adeg allweddol pan mae myfyrwyr yn dewis eu pynciau TGAU yma yng Nghymru, ond mae gweld ein dull gweithredu’n cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol yn ganmoliaeth yn wir."

Yr Athro Claire Gorrara Dean for Research and Innovation for the College of Arts, Humanities and Social Sciences, Professor of French Studies

“Mae ennill cydnabyddiaeth fel hyn yn wych, ond rydym bob amser yn datblygu ffyrdd newydd o wella’r prosiect, fel ei fod yn cyrraedd mwy o ddisgyblion ar draws y wlad. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio ar lwyfan digidol i ymestyn cyrhaeddiad y prosiect i ddisgyblion mewn ardaloedd mwy anghysbell, sy'n ddatblygiad ac yn fenter cyffrous.”

Yn ôl Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: “Rydym am i bob dysgwr allu siarad â phobl mewn ieithoedd eraill a deall a gwerthfawrogi eu diwylliannau eu hunain, yn ogystal â rhai eraill. Mae Cynllun Mentora Ieithoedd Tramor Modern yn ffordd ardderchog o gyflawni hyn, ac rwy’n falch bod Prifysgol Caerdydd wedi cael y gydnabyddiaeth y mae'n ei haeddu am arwain ar y prosiect hwn fel rhan o'n Cynllun Dyfodol Byd-eang."