Ewch i’r prif gynnwys

Pobl ifanc yn holi trigolion am syniadau i greu cymunedau mwy diogel

20 Hydref 2017

Cycle safety

Mae pobl ifanc yn dymuno cynhyrchu syniadau i helpu i wneud pobl yn fwy diogel yn eu cymunedau fel rhan o ymgyrch Wythnos Diogelwch flynyddol Grangetown.

Bellach mae'r Wythnos Diogelwch, sy'n brosiect cydweithredol rhwng Prifysgol Caerdydd a Gweithredu Cymunedol Grangetown gyda chefnogaeth Cyngor Caerdydd, yn ei thrydedd flwyddyn ac yn dychwelyd i strydoedd Grangetown rhwng 23 a 27 Hydref.

Mae themâu eleni'n cynnwys diogelwch ffordd, cymorth cyntaf a diogelwch ieuenctid.

Mae'r Wythnos Diogelwch yn rhan o brosiect Porth Cymunedol y Brifysgol, sy'n meithrin partneriaeth hirdymor gyda thrigolion Grangetown er mwyn gwneud yr ardal yn lle gwell fyth i fyw ynddo.

Fel rhan o'r Wythnos Diogelwch, bydd aelodau o Fforwm Ieuenctid Grangetown yn cyflwyno casgliadau astudiaeth grŵp ffocws bach ar ddiogelwch cymunedol yn Grangetown a gynhaliwyd ar y cyd â'r Sefydliad Ymchwil Troseddu a Diogelwch ym Mhrifysgol Caerdydd.

Roedd yr ymchwil yn cynnwys yr offeryn gwybodaeth gymunedol arloesol ‘SENSOR’, cymhwysiad cipio data sy'n caniatáu i ddefnyddwyr nodi a thargedu'r materion sydd yn cael effaith anghymesur ar ddiogelwch y gymdogaeth.

Mae'r 'hyrwyddwyr SENSOR' ifanc yn bwriadu gweithio gyda thrigolion i gytuno ar syniadau diogelwch i'r gymuned y gellir eu rhoi ar waith gyda phartneriaid eraill fel Heddlu De Cymru, Cyngor Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd.

Dywedodd un o'r bobl ifanc, Saeed Ahmed, 17: "Rwyf i'n byw yn Grangetown a bydd y darn hwn o waith yn gymorth i'n cadw ni'n fwy diogel drwy wella blaenoriaethau plismona. Hefyd mae bod yn rhan o hyn fel hyrwyddwr SENSOR yn arbennig o dda."

Fwyaf a'r orau eto

Wythnos Diogelwch eleni yw'r fwyaf a'r orau eto a bydd yn cynnwys ymweliadau diogelwch cartref drws i ddrws gan Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, y Cynllun Gwarchod Cymdogaeth a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys hyfforddiant cymorth cyntaf am ddim gyda St John Cymru, sgyrsiau ar ddiogelwch dŵr i bobl ifanc, ymgysylltu â phobl ifanc a gwiriadau diogelwch beiciau. Gall seiclwyr hefyd fanteisio ar eitemau defnyddiol a roddwyd gan Halfords.

Yn ogystal cynhelir sgwrs am gamddefnyddio sylweddau gan Switched On, tîm amlasiantaethol sy'n addysgu plant, pobl ifanc ac ymarferwyr am faterion yn ymwneud â chyffuriau ac alcohol drwy Gaerdydd a'r Fro.

Y llynedd lansiwyd 'Pawennau ar Batrôl' Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, sy'n gwahodd cerddwyr cŵn i roi gwybod am droseddau pan maent yn mynd â'u cŵn am dro. Caiff gweithgareddau Pawennau ar Batrôl eu cynnwys eleni ddydd Mawrth 24 Hydref.

"Mae'r gwaith partneriaeth a gynhelir yn ystod Wythnos Diogelwch Grangetown yn arwain at ddatrysiadau arloesol a chreadigol sy'n gwella diogelwch lleol a chyfathrebu rhwng trigolion ac asiantaethau."

Rosie Cripps Project Manager, Community Gateway

Dywedodd Rosie Cripps, Rheolwr Prosiect y Porth Cymunedol: "Eleni, ynghyd â llu o fentrau cyffrous a digwyddiadau diogelwch, bydd Prifysgol Caerdydd yn rhannu ymchwil a gynhaliwyd yn Grangetown, dan arweiniad y Sefydliad Troseddu a Diogelwch a Fforwm Ieuenctid Grangetown, â'r nod o gydweithio gyda thrigolion ac asiantaethau i ganfod datrysiadau i wneud Grangetown yn lle hyd yn oed mwy diogel i fyw a gweithio."

Dywedodd Ashley Lister, Cadeirydd Gweithredu Cymunedol Grangetown: "Eleni byddwn yn adeiladu ar ein llwyddiannau blaenorol drwy ddarparu mwy o hyfforddiant cymorth cyntaf a gwiriadau diogelwch y cartref, yn ogystal â sesiynau gwybodaeth gyda disgyblion ysgol gynradd. Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i'n holl bartneriaid yng Nghyngor Caerdydd, y gwasanaethau brys a'r trydydd sector am eu cefnogaeth barhaus yn helpu i wneud Grangetown yn gymuned fwy diogel a chydlynol."

Dywedodd Swyddog Partneriaethau Cymdogaethau Dinas a De Caerdydd Alex Gray: "Wythnos Diogelwch Grangetown yw hanfod gwaith partneriaeth ymarferol ar waith. Caiff set o faterion dynodedig eu bwydo o'r gymuned drwy bartneriaid sy'n gweithio yn yr ardal a'u trin drwy nifer o weithgareddau diddorol a dychmygus a digwyddiadau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r gymuned."

Rhannu’r stori hon

Could your research, teaching or skills support this idea? We want your help to develop projects in Grangetown.