Ewch i’r prif gynnwys

Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd yn ôl Pwnc

29 Ebrill 2015

QS rankings logo smaller

25 pwnc ar restr QS ar gyfer 2015

Mae'r Brifysgol ymhlith sefydliadau gorau'r byd mewn 25 pwnc o 33, yn ôl Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd yn ôl Pwnc, a gyhoeddwyd heddiw (00.01, dydd Mercher 29 Ebrill, 2015). 

Mae Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd yn ôl Pwnc yn rhoi sgôr i oddeutu 894 o sefydliadau ledled y byd, gan ystyried dros 100M o sylwadau a thros 14,000 o raglenni Prifysgol i lunio rhestr o brifysgolion mwyaf blaenllaw'r byd yn ôl maes pwnc.

Dyma'r tri uchafbwynt ar gyfer y Brifysgol:

Dywedodd y Dirprwy Is-Ganghellor, Yr Athro Elizabeth Treasure: "Yn dilyn ein perfformiad rhagorol yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, mae Rhestr QS eleni o'r Prifysgolion Gorau yn y Byd yn ôl Pwnc yn cadarnhau ein safle ymhlith y gorau yn y byd.

"Er y gellir canmol pensaernïaeth, seicoleg a daearyddiaeth yn benodol am gyrraedd y 50 gorau yn y byd, yr hyn sy'n arbennig o dda yw'r safon ragorol y gallwn ei dangos mewn llawer o feysydd pwnc.

"O'r gwyddorau cymdeithasol, i'r gwyddorau biofeddygol a bywyd a'r gwyddorau ffisegol, mae Prifysgol Caerdydd ymhlith y goreuon.

"Fodd bynnag, nid ydym am orffwys ar ein rhwyfau am eiliad. Nod y Brifysgol gyfan yw bod ymhlith y 100 gorau yn y byd yn gyson.

"Mae'r canlyniadau hyn yn gadarnhaol, ac yn gam ymlaen wrth i ni gyflawni ein hamcan cyffredinol."

Ein canlyniadau llawn:

Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg

Pensaernïaeth/Yr Amgylchedd Adeiledig – 50 uchaf 

Daearyddiaeth – 50 uchaf

Peirianneg Sifil a Strwythurol – 150 uchaf

Peirianneg Fecanyddol – 150 uchaf

Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr – 200 uchaf

Ystadegau ac Ymchwil Weithredol – 200 uchaf

Y Gwyddorau Amgylcheddol – 200 uchaf

Mathemateg – 250 uchaf

Peirianneg Drydanol – 250 uchaf

Cemeg – 250 uchaf

Cyfrifiadureg – 250 uchaf

Ffiseg a Seryddiaeth – 350 uchaf

Y Gwyddorau Biolegol a Bywyd

Seicoleg – 50 uchaf

Fferylliaeth a Ffarmacoleg – 100 uchaf

Fferylliaeth – 100 uchaf

Meddygaeth – 150 uchaf

Y Gwyddorau Biolegol – 150 uchaf

Meddygaeth – 150 uchaf

Y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol

Daearyddiaeth – 50 uchaf

Cyfrifeg a Chyllid – 100 uchaf

Busnes a Rheolaeth – 100 uchaf

Cyfathrebu ac Astudiaethau'r Cyfryngau – 100 uchaf

Cymdeithaseg – 150 uchaf

Saesneg Iaith a Llenyddiaeth – 150 uchaf

Addysg – 150 uchaf

Y Gyfraith – 150 uchaf

Ieithyddiaeth – 150 uchaf

Hanes – 200 uchaf