Ewch i’r prif gynnwys

Dyluniad blasus disgyblion yn syfrdanu ymwelwyr â’r Pierhead

6 Hydref 2017

snowdog community gateway

Mae disgyblion o Ysgol Gynradd Grangetown wedi bod i Fae Caerdydd i weld eu ci eira bach blasus – wedi’i noddi gan Brifysgol Caerdydd – yn cael ei arddangos yn y Pierhead.

Roedd ci bach Grangetown, ‘Ci Bach Cacen’ – a ddyluniwyd gan y disgyblion eu hunain – yn llwyddiant mawr.

Mae’r cŵn eira a’r cŵn bach eira yn rhan o lwybr celf cyhoeddus trawiadol ar draws Caerdydd, i godi arian ar gyfer yr elusen gofal lliniarol i blant, Tŷ Hafan.

Bu 410 o ddisgyblion yn dylunio ci bach Ysgol Gynradd Grangetown, o dan arweiniad arbenigol yr athrawes gelf Susan Free, sydd bellach wedi ymddeol.

Un o’r disgyblion, Mahrukh, darodd ar y syniad o addurno’r ci bach gyda chacennau bach – soniodd ei bod yn hoffi eu bwyta!

Yn ôl Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Gynradd Grangetown, Nicola Herbert: "Roedd pob plentyn yn yr ysgol y llynedd wedi chwarae rhan yn ei greu – gwaith y plant yw hwn i gyd.”

Noddodd Prifysgol Caerdydd gi bach Ysgol Gynradd Grangetown yn sgil ei chysylltiadau â’r ysgol drwy’r prosiect ymgysylltu, y Porth Cymunedol.

Bydd yr ysgol yn cael cadw Ci Bach Cacen ar ôl i’r llwybr celf cyhoeddus orffen yn hwyrach eleni.

Yn ogystal, mae gan Brifysgol Caerdydd ei chi eira ei hun y tu allan i’r Prif Adeilad. Y cymrawd ymchwil clinigol Dr Gemma Williams, o’r Ysgol Seicoleg, wnaeth ei ddylunio.

Mae nifer o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi cynllunio cŵn eira hefyd sydd i’w gweld o amgylch y ddinas.

Bydd y cŵn eira i’w gweld o amgylch Caerdydd am gyfnod o 10 wythnos cyn y byddant yn cael eu gwerthu mewn arwerthiant ar gyfer Tŷ Hafan sydd wedi dod ynghyd â Wild in Art ar gyfer y prosiect. Bydd yr ysgolion a’r grwpiau cymunedol lleol wnaeth ddylunio’r cŵn eira bach yn cael eu cadw.

Thema cŵn eira: Mae Tails in Wales yn seiliedig ar y nofel a’r animeiddiad poblogaidd The Snowman™ and the Snowdog, sy’n seiliedig ar gymeriadau a grëwyd gan Raymond Briggs.

Rhagor am y cŵn eira

Rhannu’r stori hon

Could your research, teaching or skills support this idea? We want your help to develop projects in Grangetown.