Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol haf arloesol yn helpu ffoaduriaid i gael mynediad at addysg uwch

11 Awst 2017

ASPIRE graduates throw hats in the air

Mae 50 o ffoaduriaid a cheiswyr lloches wedi graddio ar ôl astudio rhaglen arloesol newydd sy’n eu helpu i gael mynediad at addysg uwch yn y DU.

Mae ysgol haf chwe wythnos ASPIRE, a drefnwyd gan Brifysgol Caerdydd a Chyngor Ffoaduriaid Cymru, wedi’i dylunio i fynd i'r afael â rhai o'r heriau y mae ffoaduriaid, ceiswyr lloches a mewnfudwyr yn eu hwynebu wrth geisio dychwelyd i astudio.

Roedd llawer o’r ymfudwyr yn dilyn gyrfaoedd llwyddiannus cyn cyrraedd y DU. Yn rhy aml, mae amgylchiadau anodd dros ben yn amharu ar yrfaoedd, addysg a dyheadau ar gyfer y dyfodol. Mae’r amgylchiadau hyn yn cynnwys rhyfel, erledigaeth, a gwrthdaro – gan orfodi pobl i ffoi o'u gwledydd.

Cynllunio ar gyfer y dyfodol

Mae diffyg arweiniad ynghylch sut i gael mynediad at addysg a hyfforddiant, diffyg cydnabyddiaeth o gymwysterau rhyngwladol, cyfyngiadau ariannol, yn ogystal â thrafferthion wrth gael lle ar gyrsiau Saesneg i ennill y sgiliau Saesneg sydd eu hangen i astudio ar lefel y brifysgol, ymhlith y ffactorau sy’n eu rhwystro rhag astudio. Mae trawma profiadau’r gorffennol, ynghyd ag ansicrwydd ynghylch yr hawl i aros yn y DU, hefyd yn gallu ei gwneud hi’n anodd iawn cael yr hyder i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Karen Holford at ASPIRE graduation event

Mae ysgol ASPIRE wedi helpu’r myfyrwyr i oresgyn rhai o’r rhwystrau hyn drwy gynnig dosbarthiadau Saesneg dwys a chyrsiau rhagflas academaidd, gwibdeithiau ysbrydoledig a theithiau tywys i gynyddu hyder y rhai sy’n cymryd rhan, yn ogystal â rhoi chyngor arbenigol ynghylch sut i gyflwyno cais i brifysgol. Mae’r cyrsiau rhagflas yn cynnwys Rheoli Busnes, Mentora a Hyfforddi Cyfoedion, a Gwasanaeth Cyfieithu ar y Pryd ar gyfer y Cyhoedd ym maes Iechyd.

Gyda chymorth y rhaglen, mae sawl un o’r rhai sydd wedi cymryd rhan ynddi wedi cael cyfleoedd i astudio mewn prifysgolion yn y DU, gan gynnwys cael cynigion diamod i astudio cyrsiau ar lefel ôl-raddedig.

Roedd Khalid, sy’n beiriannydd sifil 23 oed o Khartoum, Sudan, yn arfer bod yn gynorthwy-ydd addysgu ac yn beiriannydd safle cyn dod i'r DU naw mis yn ôl. Ag yntau â dyheadau i fod yn ddylunydd proffesiynol, fe ymrestrodd yn yr ysgol haf i geisio gwella ei Saesneg academaidd, ac mae wedi cael sawl cynnig i astudio MSc mewn Peirianneg Strwythurol.

Cymorth aruthrol

Cyn y seremoni raddio, dywedodd Khalid:“Mae'r Ysgol Haf wedi bod o gymorth aruthrol drwy fy ngalluogi i wella fy Saesneg, ac roedd yn hwb mawr i fy hyder Gyda chymorth y tiwtoriaid cyfeillgar a hawddgar, rydw i bellach yn teimlo'n gyfforddus yn gweithio gyda deunydd academaidd yn Saesneg.  Rydw i’n edrych ymlaen at gymryd y camau nesaf yn fy ngyrfa fel dylunydd a chreu dyfodol newydd i mi fy hun.”

Dywedodd Rhag Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Karen Holford:“Mae ysgol haf ASPIRE yn fenter wych arall sy’n rhan o’n hymrwymiad i gefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid, ac mae’n elfen bwysig o’n hymdrechion i recriwtio a chadw’r myfyrwyr mwyaf disglair o bob cefndir...”

“Mae'n wych gweld bod y rhaglen eisoes wedi gwneud gwahaniaeth wrth helpu’r rhai sy’n cymryd rhan i gael mynediad at addysg uwch. Ar ran Prifysgol Caerdydd, hoffwn longyfarch pawb a gymerodd ran ar eu cyflawniad.”

Yr Athro Karen Holford Professor

System addysg sy'n ennyn balchder

Ychwanegodd Salah Mohamed, Prif Weithredwr Cyngor Ffoaduriaid Cymru:“Llongyfarchiadau mawr i’r holl ddysgwyr sy’n graddio. Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn falch iawn o'r holl raddedigion ac yn hapus i weld y gwahaniaeth y mae ysgol haf ASPIRE wedi’i wneud i geiswyr lloches yng Nghymru. Gyda lwc, bydd y myfyrwyr yn defnyddio eu medrau newydd i fanteisio’n llawn ar eu gallu. Rydyn ni’n ddiolchgar i bob corff ariannu a phartner sydd wedi gweithio’n galed iawn i gyflawni’r llwyddiant rhyfeddol hwn.”

Dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Llywodraeth Cymru:“Rydw i wedi bod wrth fy modd yn clywed am lwyddiant rhaglen ysgol haf ASPIRE a hoffwn longyfarch pawb a gymerodd ran a dangos fy ngwerthfawrogiad...”

“Ein cenhadaeth genedlaethol yw cynnig cyfleoedd i bawb, beth bynnag fo'u cefndir, a gwneud yn siŵr bod gennym system addysg sy'n ennyn balchder, yma a ledled y byd.”

Kirsty Williams Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Llywodraeth Cymru

Mae Ysgol Haf ASPIRE wedi bod yn bosibl o ganlyniad i garedigrwydd nifer o sefydliadau. Mae hyn yn cynnwys arian a roddwyd yn hael gan Sefydliad Pears a Sefydliad Waterloo. Bu Ede and Ravenscroft mor garedig â rhoi’r gwisgoedd seremonïol i’w defnyddio yn ystod y seremoni.

Rhannu’r stori hon

Rydyn ni'n ymroddedig yn ein nod i hyrwyddo cydraddoldeb ar draws y Brifysgol. Mae'r gymuned oll yn elwa o gael poblogaeth amrywiol a thalentog o fyfyrwyr.