Ewch i’r prif gynnwys

Ble nesaf i blismona yng Nghymru?

17 Chwefror 2015

Delegates at the Welsh Labour conference listening to a panel debate

Ymunodd academyddion â gwleidyddion ac ymarferwyr i drafod dyfodol plismona yng Nghymru yng Nghynhadledd Plaid Lafur Cymru yn Abertawe (14-15 Chwefror).

Cynhaliwyd y drafodaeth ar ôl i Ed Milliband AS, arweinydd y Blaid Lafur, ddweud wrth y rheiny a oedd yn bresennol y byddai llywodraeth Lafur y dyfodol yn rhoi mwy o bwerau plismona i Gymru. Mae cyfarfod cyrion y Brifysgol, "Datganoli plismona, ble nesaf?" yn un o gyfres o ddigwyddiadau sydd i'w cynnal yng nghynadleddau'r pleidiau yng Nghymru sydd wedi'u trefnu fel rhan o ymdrechion y Brifysgol i ymgysylltu'n agos â'r broses o greu polisïau yng Nghymru a thu hwnt.

Roedd y panelwyr yn cynnwys Sophie Chambers o Ysgol y Gyfraith y Brifysgol; yr Athro Martin Innes o Sefydliad Gwyddorau Heddlu'r Brifysgol (sydd wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd); y Gwir Anrhydeddus Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru; a Leighton Andrews AC, Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru. 

Cadeiriwyd y drafodaeth gan Lee Waters, Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig, a mynychwyd y digwyddiad gan drawstoriad o aelodau seneddol, aelodau'r blaid, cynghorwyr ac ymwelwyr i'r gynhadledd.

Trafodwyd nifer o themâu pwysig yn ystod y digwyddiad, gan gynnwys y math o strwythur y dylai gwasanaeth heddlu datganoledig ei gymryd; ym mha ffordd y dylai plismona yng Nghymru fod yn atebol; a ddylid mabwysiadu gwasanaeth heddlu Cymru-gyfan; ac a ddylid disodli'r Comisiynwyr Troseddu?

Amlinellodd Sophie Chambers o Ysgol y Gyfraith y Brifysgol ei safbwynt ar wefan Saesneg Click on Wales.