Ewch i’r prif gynnwys

Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol

8 Mai 2017

Professor Yves Barde 19

Mae'r Athro Yves Barde, o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd, wedi cael ei ethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol.

Cymrodoriaeth yw'r Gymdeithas Frenhinol sy'n cynnwys rhai o wyddonwyr mwyaf blaenllaw'r byd, a hi yw'r academi wyddonol hynaf sy'n bodoli. Cyhoeddwyd 50 Cymrodorion newydd 10 ac Aelodau Tramor newydd heddiw.

Yr Athro Barde fydd y trydydd Gymrawd yn y Gymdeithas Frenhinol yn Ysgol Biowyddorau y Brifysgol, gan ymuno â'r Athro Alun Davies a'r Athro Ole Petersen.

“Gyfraniad rhagorol”

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Rydw i wrth fy modd fod yr Athro Barde wedi cael y gydnabyddiaeth hon...”

“Mae ei benodiad fel Cymrawd yn y Gymdeithas Frenhinol yn arwydd o'i gyfraniad rhagorol at feysydd niwrowyddoniaeth ac ymchwil bôn gelloedd – meysydd sy'n mynd i'r afael â rhai o heriau iechyd mwyaf ein hoes.”

Yr Athro Colin Riordan Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd

Yr Athro Barde yw un o niwrofiolegwyr mwyaf blaenllaw'r byd, ac ymunodd ag Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd yn 2013 o'r Biozentrum ym Mhrifysgol Basel, i ddechrau rôl fel deiliad Cadair Ymchwil Sêr Cymru yn Niwrofioleg.

Ymchwilwyr gwyddoniaeth o'r radd flaenaf

Nod ymgyrch Sêr Cymru yw gwella rhagoriaeth ymchwil drwy ddenu ymchwilwyr gwyddoniaeth o'r radd flaenaf a'u timau i Gymru i gynyddu'r gyfran o gyllid y mae Cymru'n ei chael gan Gynghorau Ymchwil y DU a'r Undeb Ewropeaidd.

Y digwyddiad pwysicaf yng ngyrfa ymchwil yr Athro Barde oedd darganfod a chlonio protein sy'n hanfodol ar gyfer nifer o brosesau, gan gynnwys y cof dynol. Mae angen y protein hollbwysig hwn yn yr ymennydd, a elwir y ffactor niwrodroffig sy'n deillio o'r ymennydd (BDNF), i ddatblygu a chynnal system nerfol iach. Mae ei waith hefyd wedi arwain at ddarganfod teulu o broteinau cysylltiedig - niwrodroffinau.

Dywedodd yr Athro Barde: “Rydw i wrth fy modd i gael fy enwi'n Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol, un o'r cymdeithasau dysgedig mwyaf anrhydeddus yn y byd...”

“Gyda chymorth nifer o gydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym bellach yn ceisio deall yn well y rôl sydd gan BDNF yn yr ymennydd dynol, a darganfod a oes modd defnyddio'r ffactor twf hwn i fonitro cyflyrau megis niwroddirywiad.”

Yr Athro Yves Barde Professor / Sêr Cymru Research Chair in Neurobiology

Mae'r Athro Barde wedi cael ei gydnabod gan nifer o sefydliadau: mae'n Aelod o EMBO, cafodd y Wobr IPSEN a gwobr Charles A Dana ym 1994, a Gwobr Niwrowyddoniaeth anrhydeddus Perl UNC yn 2004. Mae'n Aelod Gwyddonol Allanol Sefydliad Niwrofioleg Max Planck yn Martinsried, ac yn gyn-gyfarwyddwr arno. Gadawodd Sefydliad Niwrofioleg Max Planck yn sgil cynnig i ddod yn Gyfarwyddwr Sefydliad Friedrich Miescher yn Basel, cyn dod yn Athro Niwrofioleg yn Biozentrum yn Basel – sefydliad ymchwil blaenllaw yn y Swistir.

Rhannu’r stori hon

Mae gan yr Ysgol enw da ar lefel ryngwladol am ei haddysgu a’i hymchwil, ac mae’n cynnig rhai o’r cwricwla biowyddorau gorau yn y DU sy’n cael ei arwain gan ymchwil