Y Ddadl Ffracio

10 Ebrill 2017

Fracking drilling rig

Er bod cefnfor cyfan yn gwahanu'r DU oddi wrth yr Unol Daleithiau, pan fydd cwestiwn ffracio'n codi, mae'r rhaniad mawr - a siarad yn athronyddol - yn culhau'n sylweddol.

Mae pryderon am effeithiau tymor byr a thymor hir drilio llorweddol am ynni siâl yn amlwg yn y ddwy wlad. Yn ôl astudiaeth newydd gan ymchwilwyr a chydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, mae'r cwestiynau allweddol yn cynnwys y perygl o halogi dŵr yn ogystal â ffafrio ffynonellau ynni adnewyddadwy yn hytrach na thanwydd ffosil i ddiwallu anghenion ynni cyhoeddus.

“Mae hyn - ac ymchwil arall rydym ni wedi'i gynnal - yn dangos bod y cyhoedd yn y ddwy wlad yn amlwg yn dymuno cael symudiad at system ynni glanach, mwy cynaliadwy yn y dyfodol,” dywedodd yr awdur deallusol Nick Pidgeon, athro seicoleg amgylcheddol ym Mhrifysgol Caerdydd.

“Mae'r canlyniadau'n cadarnhau nad yw datblygiadau siâl yn gydnaws â'r weledigaeth honno.”

Yr Athro Nick Pidgeon, Athro Seicoleg Amgylcheddol, Cyfarwyddwr Grŵp Ymchwil Deall Risg.

Trafodaethau mwy gwybodus

Mae cynhyrchu nwy siâl ac olew yn yr Unol Daleithiau wedi cynyddu'n gyflym dros y ddegawd ddiwethaf, ac mae gan lywodraeth y DU ddiddordeb yn y datblygiad arfaethedig. Mae deall barn y cyhoedd yn gam cyntaf hanfodol i greu trafodaethau mwy gwybodus am ynni a hyrwyddo gwell penderfyniadau.

Cynhaliodd yr ymchwilwyr gyfres o weithdai trafod undydd wedi'u trefnu'n ofalus gydag amrywiol aelodau o'r cyhoedd mewn pedair dinas: Llundain, Caerdydd, Los Angeles a Santa Barbara. Roedd y trafodaethau manwl hyn yn galluogi'r ymchwilwyr i edrych y tu hwnt i dystiolaeth sy'n bodoli am farn y cyhoedd am hollti hydrolig wedi'i seilio'n bennaf mewn ardaloedd oedd eisoes wedi'u heffeithio.

“Roedd y canlyniadau'n dangos mai'r farn gyffredinol am ddatblygiadau siâl oedd eu bod yn ddatrysiad tymor byr yn arwain at ddibyniaeth ddieisiau ar danwydd ffosil cyfyngedig ar draul datblygu ynni adnewyddadwy,” dywedodd y cydawdur Merryn Thomas, cydymaith ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd.

“Nododd cyfranogwyr yn y ddwy wlad y byddai'r mwyafrif o'r manteision arfaethedig yn gymharol dymor byr (e.e. swyddi arbenigol am gyfnodau cyfyngedig) tra bo'r risgiau bron yn sicr o fod yn rhai tymor hirach (e.e. diraddio amgylcheddol).”

Dr Merryn Thomas, Cydymaith Ymchwil

Canfu'r astudiaeth fod y rheini a holwyd yn ystyried bod yr effeithiau posibl yn cael eu dosbarthu'n annheg, gan ddadlau nad oedd y manteision economaidd a chyflogaeth a neilltuir i ddatblygu siâl yn unigryw ac y byddent yn gymwys yn yr un modd i fuddsoddiad ac uwchraddio sylweddol mewn technolegau adnewyddadwy.

UK and US flags

Ymddiriedaeth dwfn yn y llywodraeth a sefydliadau

Roedd gwahanol bryderon yn y ddwy wlad yn adlewyrchu modelau gwahanol o lywodraethu diwydiannau echdynnol. Yn yr Unol Daleithiau, roedd rhai cyfranogwyr yn awyddus i gael canllawiau ffederal mwy safonedig ac atebolrwydd tymor hir. Ar y llaw arall, yn y DU, lle ceir rheoleiddio ar lefel genedlaethol yn bennaf, cafwyd galwadau am fwy o reolaeth leol. Beth bynnag y lleoliad, mynegodd y cyfranogwyr ddiffyg ymddiriedaeth dwfn yn y llywodraeth a sefydliadau.

Yng Nghaliffornia, roedd profiadau cyfredol ac yn y gorffennol gyda'r diwydiant olew lleol yn lliniaru pryder rhai pobl am ddatblygiadau siâl yn y dyfodol. Fodd bynnag, i eraill, amlygodd profiadau personol o brinder dŵr a daeargrynfeydd yr ymdeimlad hwn o risg. Yn y DU, lle mae echdynnu olew a nwy ar y tir yn llai cyffredin, tynnodd cyfranogwyr ar brofiadau ymylol o'r diwydiant glo a diwydiannau trwm wrth wneud synnwyr o'r hyn y gallai datblygiadau siâl ei olygu iddyn nhw yn y dyfodol.

“Canfu'r astudiaeth hon lefelau rhyfeddol o uchel o bryder amgylcheddol a chymdeithasol am hollti hydrolig mewn ardaloedd heb unrhyw brofiad uniongyrchol o'r dechnoleg,” dywedodd y cydawdur Barbara Harthorn, cyfarwyddwr CNS ac athro yn Adran Anthropoleg UCSB.

“Mae'r dull hwn yn cynnig tystiolaeth gref fod amrywiol aelodau o'r cyhoedd yn gallu cyfrannu'n feddylgar ac yn feirniadol ynghylch penderfyniadau am systemau ynni lleol a chyfunol a'u heffaith.”

Yr Athro Barbara Harthorn, Phrifysgol Talaith California Santa Barbara Center for Nanotechnology in Society

Darparwyd y prif gyllid ar gyfer yr ymchwil hwn gan y Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol gyda chymorth ategol gan raglen ymchwil ac arloesi'r Undeb Ewropeaidd Horizon 2020.

Gan dynnu ar dros ddegawd o ymchwil a ddatblygwyd gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Talaith California Santa Barbara Center for Nanotechnology in Society (UCSB-CNS) yn yr Unol Daleithiau, dyma'r astudiaeth ansoddol, ryngddisgyblaethol, drawsgenedlaethol gyntaf o ganfyddiadau o echdynnu siâl yn y DU a’r Unol Daleithiau. Mae'r canlyniadau i'w gweld yn y cyfnodolyn Nature Energy.

Rhannu’r stori hon

School of Psychology

For more information visit the School webpages.