Ewch i’r prif gynnwys

Creu artemisinin

15 Mawrth 2017

Mosquito on human skin

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi dyfeisio dull newydd o greu cyffur a ddefnyddir yn aml fel y cam cyntaf wrth amddiffyn yn erbyn malaria ledled y byd.

Cyffir a argymhellir gan Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer trin achosion difrifol o falaria yw artemisinin, ac mae'n gweithio drwy ymosod ar y paraseit malaria ym mhob cam yn y gwaed.

Mae'r cyflenwad byd-eang o artemisinin yn dibynnu'n fawr ar echdynnu'r cynnyrch o blanhigyn Artemisia annua, felly mae ymchwilwyr wedi bod yn ymdrechu i ddarganfod dull effeithiol o gynhyrchu'r cyffur yn y labordy.

Mae taer angen cynhyrchu'r cyffur yn rhad, oherwydd ar hyn o bryd daw'r galw ar gyfer artemisinin o wledydd datblygol yn bennaf.

Mewn papur newydd a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn cemeg blaenllaw, Angewandte Chemie, mae Prifysgol Caerdydd wedi disgrifio dull newydd sy'n gwrthdroi rhan o'r broses gynhyrchu a welir ym myd natur.

Malaria and artemisinin infographic

Ond 4 cam

Yr elfen allweddol yn eu proses newydd yw protein o'r enw amorffadien synthas, sy'n cynhyrchu amorffadien – rhyngolyn allweddol yn y gadwyn hir o ddigwyddiadau sy'n arwain at gynhyrchu artemisinin. Yna, caiff amorffadien ei addasu eto yn y planhigyn drwy adweithio gydag ocsigen.

Darganfu'r ymchwilwyr eu bod yn gallu diddymu sawl cam yn y broses drwy ddefnyddio rhagflaenydd ocsidiedig amorffadien i gynhyrchu aldehyd deuhydroartemisnig – cemegyn datblygedig yn y gadwyn o ddigwyddiadau sydd eu hangen i gynhyrchu artemisinin.

Yn hytrach na'r 13 o gamau y mae byd natur yn eu defnyddio i gynhyrchu'r cyffur, gall y tîm ei wneud mewn dim ond 4 cam drwy ddefnyddio'r rhagflaenydd ocsidiedig.

Dywedodd prif awdur yr ymchwil, yr Athro Rudolf Allemann, Pennaeth Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd: "Mae ein dull newydd, i bob pwrpas, yn osgoi nifer o gamau allweddol yn y broses o gynhyrchu artemisinin – y cam cyntaf wrth amddiffyn yn erbyn malaria..."

"Yr hyn sydd ar ôl gennym yw dull newydd a phwerus ar gyfer cynhyrchu'r cyffur, heb ddibynnu ar echdynnu'r cyffur o nifer fawr o blanhigion. Gallai ein dull leihau'r ansefydlogrwydd yng nghadwyn gyflenwi artemisinin."

Yr Athro Rudolf Allemann Pro Vice-Chancellor, International and Student Recruitment and Head of the College of Physical Sciences and Engineering

Ym mis Hydref 2015, cafodd y gwyddonydd o Tsieina a wnaeth ddarganfod artemisinin, Tu Youyou, y Wobr Nobel mewn Ffisioleg neu Feddygaeth am ei gwaith.

Yn y misoedd diwethaf nodwyd bod rhai cleifion wedi ymwrthod artemisinin; fodd bynnag, mae'r Athro Allemann yn credu y gallai'r dull hwn ein helpu i astudio beth sy'n achosi'r ymwrthiad hwn, ac i ddatblygu ffyrdd o newid cyfansoddiad cemegol y cyffur er mwyn mynd i'r afael â hyn.

"Artemisinin yw'r driniaeth orau sydd gennym yn erbyn malaria, ac felly trwy greu'r dull newydd hwn rydym yn gobeithio y bydd ymchwilwyr yn gallu astudio'r ymwrthiad hwn yn agosach ac yn gallu dyfeisio ffyrdd o fynd i'r afael ag ef," dywedodd yr Athro Allemann.

"Mae ein dull cynhyrchu hefyd yn generig, a gellir ei ddefnyddio i greu cydweddau artemisinin a allai ein galluogi i fynd i'r afael â malaria mewn nifer o ffyrdd newydd."

Gellir lawrlwytho'r papur llawn yma.

Rhannu’r stori hon

Mae gwaith ymchwil ac addysg yr Ysgol ar flaen y gad yn rhyngwladol ac yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â heriau gwyddonol pwysig yr 21ain ganrif.