Ewch i’r prif gynnwys

Diffyg hyfforddiant ymhlith athrawon a staff cynorthwyol am sut i fynd i'r afael â 'thabŵ' hunan-niweidio mewn ysgolion

22 Rhagfyr 2016

Child behind metal fence

Yn ôl adroddiad newydd gan un o gymunedau ymchwil GW4, nid yw'r rhan fwyaf o athrawon a staff cynorthwyol yn cael yr amser na'r hyfforddiant sydd ei angen arnynt i gefnogi myfyrwyr sy'n niweidio eu hunain.

Daeth i'r amlwg hefyd mewn arolwg staff o 153 o ysgolion uwchradd ledled Cymru, Dyfnaint a Gwlad yr Haf bod athrawon a staff cynorthwyol yn amharod i siarad â myfyrwyr am hunan-niweidio gan eu bod yn ofni y gallai hynny gynyddu nifer yr achosion.

Academyddion blaenllaw ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerwysg a gynhaliodd yr ymchwil ochr yn ochr â chydweithwyr o Brifysgolion Caerfaddon, Bryste ac Abertawe. Fe gafodd yr ymchwil ei hariannu gan Gynghrair G4. Mae'r gynghrair hon yn dod â phedair o'r prifysgolion mwyaf ymchwil-ddwys ac arloesol yn y DU at ei gilydd; prifysgolion Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg.

Mae hunan-niweidio yn broblem gynyddol mewn ysgolion ledled y wlad. Daeth i'r amlwg mewn astudiaeth gan Brifysgol Bryste fod dau o bob deg o blant 16-17 oed yn niweidio eu hunain.

Nid oedd y rhai a ymatebodd i arolwg GW4 o'r farn bod staff wedi'u hyfforddi'n ddigonol i ymdopi â hunan-niweidio, a chafodd hyn ei nodi fel maen tramgwydd gan wyth o bob deg (81%).

Fe gyfeiriodd athrawon a staff cynorthwyol at brinder amser yn y cwricwlwm (79%) a diffyg adnoddau (74%) hefyd fel maen tramgwydd o bwys sy'n eu rhwystro rhag rhoi cefnogaeth am hunan-niweidio i fyfyrwyr.

Roedd staff yr ysgol hefyd yn bryderus y gallai codi ymwybyddiaeth myfyrwyr o hunan-niweidio gynyddu nifer yr achosion o hunan-niweidio yn y pen draw.

Fe gafodd y pryder y gallai cyflwyno rhaglen benodol am hunan-niweidio annog myfyrwyr i niweidio eu hunain ei ystyried fel maen tramgwydd gan wyth o bob deg (80%) a fyddai'n eu rhwystro rhag mynd i'r afael â'r maes mewn grwpiau. Dywedodd mwyafrif yr ymatebwyr y byddent yn defnyddio rhaglenni hybu iechyd meddwl cyffredinol yn hytrach na rhai sy'n ymwneud â hunan-niweidio yn benodol.

Mae ysgolion hefyd yn bryderus mai prin iawn yw'r rheolaeth sydd ganddynt dros fynediad myfyrwyr at gyfryngau cymdeithasol, er bod gan y cyfryngau hyn rôl bwysig wrth hysbysu a dylanwadu ar fyfyrwyr. Mae staff o'r farn y gallent gael effaith negyddol drwy annog eu myfyrwyr i niweidio eu hunain.

Dywedodd Dr Rhiannon Evans, Cymrawd Ymchwil ym maes y Gwyddorau Cymdeithasol ac Iechyd yn DECIPHer (Canolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y cyhoedd), Prifysgol Caerdydd: "Mae hunan-niweidio yn broblem o bwys i ysgolion ac mae ein hymchwil wedi dangos y gallai'r bylchau sylweddol mewn gwybodaeth a hyfforddiant olygu na fydd myfyrwyr yn cael digon o gefnogaeth.

"Mae athrawon a staff cymorth wedi mynegi pryder ynghylch eu gallu i roi cyngor digonol. Gallai pryderon y bydd trafodaeth agored am hunan-niweidio yn annog plant i ddechrau niweidio eu hunain fod yn cyfrannu at y diffyg cefnogaeth.

"Fodd bynnag, mae hefyd yn galonogol gweld bod ysgolion yn ystyried hunan-niweidio, ochr yn ochr â maes ehangach iechyd meddwl a lles, fel blaenoriaethau..."

"Gyda lwc, bydd yr adroddiad yn rhoi'r camau ymarferol sydd eu hangen ar athrawon a staff cynorthwyol i fynd i'r afael â hunan-niweidio a lleihau nifer yr achosion."

Dr Rhiannon Evans Research Associate

Mae arolwg GW4 wedi dangos bod angen rhagor o ymchwil am ymwybyddiaeth o hunan-niweidio a'i 'ledaeniad'. Mae angen ymchwil hefyd er mwyn deall effeithiau cyfryngau cymdeithasol ar bobl ifanc. Drwy wneud hynny, dylai'r ysgolion fod mewn gwell sefyllfa i baratoi strategaethau atal hunan-niweidio.

"Cymerodd dros 150 o ysgolion ar draws ein rhanbarth ran yn yr astudiaeth bwysig hon sy'n dangos bod angen rhagor o gefnogaeth i roi'r cyfarpar a'r technegau sydd eu hangen ar athrawon i fynd i'r afael â hunan-niweidio."

Dr Sarah Perkins Cyfarwyddwr GW4

Dywedodd Dr Sarah Perkins, Cyfarwyddwr GW4: "Gyda lwc, bydd llunwyr polisïau ac ysgolion yn cydnabod yr ymchwil yma er mwyn gwneud penderfyniadau cymwysedig ynghylch y gefnogaeth a roddir ym meysydd iechyd meddwl a hunan-niweidio."

Daeth yr adroddiad i ben drwy gyflwyno argymhellion ar gyfer llunwyr polisïau a staff yr ysgol:

  • Dylai hyfforddiant iechyd meddwl fod yn y cwricwla ar TAR a chyrsiau ymarfer dysgu.
  • Dylai fod gan ysgolion o leiaf un aelod o staff sydd wedi cael hyfforddiant iechyd meddwl mewn meysydd sy'n ymwneud â phobl ifanc, gan gynnwys hunan-niweidio (tebyg i gael aelod o staff sydd wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf).
  • Dylai ysgolion gael digon o amser ac arian ar gyfer datblygiad proffesiynol gan gynnwys pynciau iechyd meddwl.
  • Dylai hunan-niweidio fod yn rhan o weithgareddau cwricwlwm i wneud yn siŵr bod ysgolion yn rhoi sylw i'r maes.

Rhannu’r stori hon

Rhagorwn mewn ymchwil ryngddisgyblaethol sydd â ffocws clir ar bolisi.