Ewch i’r prif gynnwys

Cymrodoriaethau Addysgu Cenedlaethol

9 Rhagfyr 2016

Blurred image of lecture

Mae Jason Tucker o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth a Dr Steve Rutherford o Ysgol y Biowyddorau wedi cael Cymrodoriaethau Addysgu Cenedlaethol ar gyfer eu llwyddiannau rhagorol ym maes dysgu ac addysgu.

Yr Academi Addysg Uwch sy'n dyfarnu Cymrodoriaethau Addysgu Cenedlaethol, sef y wobr fwyaf mawreddog ar gyfer rhagoriaeth addysgu ym maes addysg uwch.

Mae Jason Tucker yn Ddarllenydd yn y Gyfraith ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth. Gweithiodd fel cyfreithiwr mewn practis preifat, ac ymunodd â'r Ganolfan i addysgu ar y cyrsiau galwedigaethol ar gyfer darpar gyfreithwyr a bargyfreithwyr.

Ar hyn o bryd mae Jason yn canolbwyntio ar drosi cwricwlwm traddodiadol am y gyfraith yn brofiad dysgu rhyngddisgyblaethol, sy'n galluogi myfyrwyr i ddatblygu'r rhinweddau sydd eu hangen ar raddedigion i bontio i fyd gwaith.  Er mwyn gwneud hyn, mae'n ychwanegu at lwyddiannau diweddar o ran datblygu partneriaeth unigryw rhwng myfyrwyr ac elusen genedlaethol. Trwy ddefnyddio dull dysgu gwrthdro, mae myfyrwyr wedi cynhyrchu llawlyfrau cyfreithiol i gefnogi gwaith cynghori'r elusen, gan wella eu gwybodaeth gyfreithiol a'u sgiliau trosglwyddadwy drwy wneud hynny.

Mae Dr Stephen Rutherford yn uwch ddarlithydd a Dirprwy Gyfarwyddwr Addysg Israddedig yn Ysgol y Biowyddorau. Ymunodd â Phrifysgol Caerdydd yn 2005 ar ôl cynnal ymchwil ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Rhydychen ac UDA. Enillodd MA(Ed) yn 2009 ac ar hyn o bryd mae'n astudio ar gyfer Ed.D.

Prif thema gwaith Dr Rutherford yw dulliau dysgu ac addysgu sy'n canolbwyntio ar y dysgwr, ac sy'n annog pobl i ddysgu mewn modd gweithredol a chydweithredol i ddatblygu dealltwriaeth a sgiliau beirniadol. Mae hefyd yn defnyddio'r dull ystafell ddosbarth wrthdro, ac yn dosbarthu cynnwys ffeithiol cyn dosbarthiadau wyneb yn wyneb er mwyn i weithgareddau'r dosbarth ganolbwyntio ar dasgau dysgu gweithredol a chydweithredol.

Dywedodd yr Athro Marshall, Prif Weithredwr yr Academi Addysg Uwch: "Rwy'n hynod falch bod gan yr Academi gyfle i gynnig y gwobrau hyn, ac i helpu i rannu'r arferion gorau y mae'r gwobrau'n eu hamlygu. Mae dathlu addysgu rhagorol, boed hynny gan dimau neu unigolion, yn hynod bwysig, ac yn amlygu'r gwaith campus a wneir yn y sector i wella profiad myfyrwyr.  Mae'r holl wobrau'n cynnig astudiaethau achos hynod ddiddorol o arferion gorau y gallwn eu rhannu ar draws y sector.  Mae'n gyfle hefyd i bob un ohonom fyfyrio am ein gwaith ein hun, yn unigol ac fel timau – beth ydym yn ei wneud yn dda, beth allwn ni ei ddysgu, beth allwn ni ei wneud yn well?"

Rhannu’r stori hon