Ewch i’r prif gynnwys

Sefydliad Confucius yn cyflwyno'r iaith â'r nifer fwyaf o siaradwyr yn y byd i Gymru

18 Tachwedd 2016

Confucius Institute - group shot

Mae cynllun hyfforddi athrawon a drefnwyd gan Sefydliad Confucius Prifysgol Caerdydd yn hybu dyheadau rhyngwladol pobl ifanc yng Nghymru.

Daeth athrawon o ysgolion cynradd ac uwchradd o ledled y wlad at ei gilydd yng Nghaerdydd y mis hwn i wneud cwrs trochi preswyl ar gyfer Mandarin a ddyluniwyd i roi'r sgiliau sydd eu hangen i athrawon i addysgu'r iaith â'r nifer fwyaf o siaradwyr yn y byd.

Cafodd y cwrs preswyl rhad ac am ddim ei gynnal yng Ngwesty Copthorne, Caerdydd, a'i drefnu gan Sefydliad Confucius Caerdydd, sy'n hyrwyddo iaith a diwylliant Tsieina yng Nghymru, a hwn yw'r pumed cwrs o'i fath.

Mae mwy na 900 miliwn o bobl yn siarad Mandarin ledled y byd, a hon yw'r iaith a ddefnyddir fwyaf ar y rhyngrwyd ar ôl y Saesneg. Yn ôl y British Council, hon yw'r iaith bwysicaf i bobl ifanc ei dysgu er mwyn parhau i fod yn "gystadleuol ar lefel fyd-eang at y dyfodol". O ganlyniad, mae Sefydliad Confucius wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i hyrwyddo'r syniad o addysgu Mandarin mewn ysgolion Cymru, gan rymuso athrawon i annog eu disgyblion i feddwl y tu hwnt i'w milltir sgwâr wrth ddewis pynciau TGAU.

Lansiodd Llywodraeth Cymru ei chynllun Dyfodol Byd-eang yn 2015 i wella a hyrwyddo ieithoedd tramor modern yng Nghymru drwy gynnig hyfforddiant fel hwn yn rhan o'u hamcan i gynyddu capasiti a chefnogaeth ar gyfer datblygiad proffesiynol y gweithlu addysg.

Aeth Keri Bosley, Cyfarwyddwr Ieithoedd Tramor Modern yn Ysgol Uwchradd Crug Hywel, Powys, i'r cwrs er mwyn cyflawni ei nod o addysgu Mandarin yn ei hysgol yn y dyfodol. Dywedodd, "Yn ogystal ag addysgu tair iaith ym mhob cyfnod allweddol, rydw i'n gyfrifol am addysg fyd-eang a'r elfen ryngwladol. Dros y pedair blynedd ddiwethaf mae Mandarin ac Astudiaethau Tsieineaidd wedi bod yn tyfu'n raddol ac rydyn ni fel ysgol wedi ymrwymo'n llawn i sicrhau bod pob disgybl, beth bynnag ei allu, yn gallu manteisio ar y cyfle gwych hwn i ddysgu iaith. Roedd y cwrs yn well nag oeddwn i'n disgwyl. Roedd y dull addysgu yn rhagorol, a'r deunydd dysgu'n ddiddorol a heriol."

Roedd Kay O'Hanlon, Pennaeth Ysgol Gynradd Our Lady's RC, Aberpennar, yr un mor gadarnhaol wrth sôn am ei phrofiad: "Roedd y cwrs yn wych ac yn ddefnyddiol ar sawl lefel. Mae mynd o fethu â deall unrhyw Fandarin i allu cynnal sgwrs sylfaenol o fewn tridiau yn anhygoel. Mae cael y fraint o fod i ffwrdd o waith pob dydd yr ysgol yn eich galluogi i ganolbwyntio, ac mae cwrdd â chydweithwyr sydd wedi cyrraedd gwahanol gamau o'r broses o addysgu diwylliant Tsieineaidd a Mandarin yn eu hysgolion yn gefnogol ac yn eich ysbrydoli."

Dywedodd Rachel Williams, rheolwr prosiect ysgolion Cymru Tsieina yn Sefydliad Confucius: "Dyma'r bumed flwyddyn i ni redeg y cwrs trochi, ac mae'n wych gweld mwy a mwy o athrawon yn bresennol bob blwyddyn. Mae hwn yn adlewyrchu ffaith bod mwy a mwy o bobl yn cydnabod bod Mandarin yn iaith fyd-eang bwysig, a bod angen i ni wneud yn siŵr bod ein disgyblion yng Nghymru yn barod i fod yn ddinasyddion byd-eang yn y dyfodol. Roedd natur y cwrs yn golygu bod gan yr athrawon afael da ar Fandarin sylfaenol erbyn diwedd y tridiau, ac roedd pob un ohonynt yn teimlo'n barod i fynd â'u sgiliau ieithyddol newydd yn ôl i'w hystafelloedd dosbarth."

Rhannu’r stori hon

Mae ein cymuned fyd-eang, ein henw da a’n partneriaethau wrth galon ein hunaniaeth.