Ewch i’r prif gynnwys

Diwrnod Di-gar

20 Medi 2016

Car free Park Place

Bydd Plas y Parc yn cau i draffig ddydd Iau 22 Medi, wrth i'r Brifysgol gymryd rhan mewn Diwrnod Di-gar y Byd.

Bydd Cyngor Dinas Caerdydd yn gweithio gyda nifer o bartneriaid, gan gynnwys y Brifysgol, i gynnal y digwyddiad hwn, a fydd yn cyd-fynd â digwyddiadau Wythnos y Glas.

Mae trigolion a chymudwyr Caerdydd yn cael eu hannog i adael eu ceir gartref ar y diwrnod hwn a defnyddio dulliau eraill o deithio.

Bydd amrywiaeth o stondinau ac arddangosfeydd, gan gynnwys teithio cynaliadwy a diogelwch beiciau ar Blas y Parc, a fydd yn cau rhwng 20:00 ar 21 Medi a hanner nos ar 22 Medi.

Mae’r gweithgareddau’n cynnwys:

  • Marchnad ffermwyr
  • Ffair fwyd
  • Cofrestru beiciau
  • Hyfforddiant beicio
  • Sesiynau trwsio beiciau
  • Bydd adran chwaraeon Prifysgol Caerdydd yn arddangos cyfleusterau sydd ar gael i fyfyrwyr a staff, ac yn cynnal sesiynau hyfforddiant llai heriol.
  • Rafflau rhad ac am ddim i ennill cyfarpar diogelwch beiciau

Bydd Undeb y Myfyrwyr hefyd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau ar Blas y Parc.

"Fel Prifysgol rydym wedi ymrwymo i egwyddorion datblygu cynaliadwy, felly rydyn ni'n hynod falch o gefnogi Diwrnod Di-gar y Byd. Bydd yn ddiddorol dros ben gweld Plas y Parc wedi'i chau am y dydd, wrth i'r myfyrwyr newydd fwynhau'r gweithgareddau yn y stryd a drefnwyd gennym ni, Undeb y Myfyrwyr, Cyngor y Ddinas a phartneriaid eraill."

Yr Athro Elizabeth Treasure Deputy Vice-Chancellor, Professor and Honorary Consultant, Dental Public Health

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio, Trafnidiaeth a Chynaliadwyedd, y Cynghorydd Ramesh Patel: "Mae gwneud cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus yn ddewisiadau mwy deniadol a phosibl i gymudwyr a thrigolion yn rhan hollbwysig o ddatblygiad parhaol Caerdydd a chyflawni ein huchelgais o ddod y brifddinas orau i fyw ynddi yn Ewrop.

"Mae’n galonogol gweld yr holl ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus a’n partneriaid trafnidiaeth eraill yn gweithio gyda ni ar hyn.

"Y brif neges yw ein bod ni am i bobl ddeall bod dewisiadau eraill ar gael ac rydym am i bobl fynd i’r arddangosiad ar Blas y Parc ar 22 Medi i ddysgu mwy.”

Deallwn y gallai cau'r ffordd fod yn anghyfleus i rai o'n staff a'n myfyrwyr ond mae trefniadau ar waith i liniaru'r effeithiau hyn cyn belled â phosib.

Rhannu’r stori hon

Rydym ni wedi ymrwymo i greu Prifysgol mwy cynaliadwy ac i ddatblygu ymchwil i gynaladwyedd