Ewch i’r prif gynnwys

Cydweithrediad Caerdydd yn ennill grant diabetes

18 Awst 2016

Gold abstract

Mae prosiect arloesol sy'n defnyddio nanoronynnau aur i ddatblygu triniaethau diabetes, wedi ennill grant sylweddol.

Mae'r cwmni fferyllol rhyngwladol Midatech Pharma yn cydweithio â Phrifysgol Caerdydd i ddatblygu triniaethau sy'n helpu i greu inswlin yn y pancreas.

Bydd y grant o £370,000 ar draws dwy flynedd gan y Sefydliad Ymchwil Diabetes Ieuenctid, yn helpu gwyddonwyr i ymchwilio sut gall technoleg nanoronynnau aur atal ymatebion diangen awto-imiwnedd i gelloedd iach, cyffredin yn y pancreas.

Caiff y gwaith ymchwil ei arwain gan yr Athro Colin Dayan o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, sydd â diddordeb ymchwil arbennig yn imiwnobatholeg diabetes math 1.

Dywedodd yr Athro Colin Dayan: "Mae Prifysgol Caerdydd yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio drwy ddefnyddio technoleg nanoronynnau aur Midatech.

"Mae'r dechnoleg wedi dangos cryn dipyn o addewid drwy ganolbwyntio ar gelloedd imiwnedd penodol, dosbarthu'n gyflym i'r meinweoedd lymffoid o amgylch y corff, yn ogystal ag addasu ymatebion imiwnedd y corff.  Bydd hwn yn brosiect pwysig ar gyfer afiechydon awto-imiwnedd yn gyffredinol, a diabetes yn enwedig, ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu'r maes hwn."

Dywedodd Dr Jim Phillips, Prif Swyddog Gweithredol Midatech: "Mae defnyddio technoleg nanoronynnau aur ar gyfer imiwnotherapi'n datblygu'n sydyn, ac mae'n cyfle wneud gwahaniaeth arwyddocaol wrth drin afiechydon awto-imiwnedd megis diabetes, yn ogystal â chanolbwyntio ymhellach ar arwyddion oncoleg gan gynnwys canser yr ymennydd, yr iau, y pancreas a'r ofarïau.

"Mae'r diddordeb yn nhechnoleg Midatech ar draws ystod eang o driniaethau therapi'n dangos cymaint o addewid sydd i'w gael yn y maes a phiblinell y grŵp."