Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr genedlaethol ar gyfer canolfan addysgu

10 Tachwedd 2015

National award for teaching centre

Canolfan Addysgu Ôl-raddedigion Ysgol Busnes Caerdydd yn ennill Gwobr Adeiladu Arbenigrwydd

Mae'r Ganolfan Addysgu Ôl-raddedigion yn Ysgol Busnes Caerdydd, sydd werth £13.5m, wedi ennill gwobr genedlaethol mewn digwyddiad sy'n dathlu'r gorau ym maes adeiladu yn y DU.

Cipiodd y ganolfan addysgu'r wobr gyntaf yng nghategori iechyd a diogelwch y gwobrau Adeiladu Arbenigrwydd yn Llundain.

Dywedodd y beirniaid fod y tîm wedi sicrhau lefelau rhagorol o iechyd a diogelwch, ymhlith y gweithlu a gyda'r cyhoedd. 

Aeth y prosiect ymlaen i gystadlu yn y gwobrau cenedlaethol ar ôl ennill yn yr un categori yng ngwobrau Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru yn gynharach yn 2015.

Mae'r ganolfan yn gartref i weithwyr proffesiynol sy'n cael hyfforddiant a myfyrwyr amser llawn sy'n astudio ar gyfer cymwysterau lefel Meistr.

Roedd y mentrau a roddwyd ar waith ar gyfer adeiladu yn cynnwys creu ap iechyd a diogelwch a sesiynau sgrinio iechyd cyhoeddus gyda'r elusen canser leol, Tenovus.

Daethpwyd o hyd i atebion i anawsterau megis llinell reilffordd gyfagos a phrinder lle drwy gyfuniad o gynllunio a gweithredu'r prosiect yn ofalus, yn ogystal â thrafod yn rheolaidd gyda'r rhai oedd yn gysylltiedig â'r gwaith.

Cymerwyd camau i sicrhau diogelwch cerddwyr, fel cael porthor, mynediad diogel i'r safle a chreu llwybrau diogel i gerddwyr.

Mae gan y ganolfan ddwy ddarlithfa fawr, ystafell gyfnewid lle gall myfyrwyr ennill y sgiliau sydd eu hangen i weithio mewn Cyfnewidfa Stoc, ystafelloedd addysgu a seminar, ac amrediad o leoedd anffurfiol ar gyfer dysgu ac addysgu.

Rheolwyd y prosiect gan dîm Ystadau'r Brifysgol. Roedd ei bartneriaid yn cynnwys y prif gontractwr ISG, y pensaer Boyes Rees, y peirianwyr sifil a strwythurol Bingham Hall, a'r syrfewyr meintiau Hills. Gwnaed y gwaith mecanyddol a thrydanol gan Bartneriaeth Holloway.