Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol Fferylliaeth yn croesawu plant o ysgolion Cathays

9 Ionawr 2019

Lecture Theatre
Y disgyblion yn narlithfa Redwood

Yn yr wythnos cyn y Nadolig, daeth dros 250 o blant ysgol gynradd i adeilad Redwood ym mhenllanw Sesiynau Gwyddoniaeth yr Ysgol Fferylliaeth. Mae'r fenter ymgysylltu gyhoeddus hon, a gynhaliwyd gan Dr Jennifer Wymant ac a ariannwyd gan Sefydliad Waterloo, Cyngor Caerdydd a Willmott Dixon, wedi cyflwyno gwersi gwyddoniaeth mewn pump ysgol gynradd yn ardal Cathays.

Willmott Dixon Game
Dysgodd Willmott Dixon y plant am waith tîm trwy dasg peirianyddol tetrahedron

Roedd y prosiect yn cynnwys ymweliadau ysgol gan Dr Wymant ac Ian Boostrom. Cafodd disgyblion Cyfnod Allweddol 2 gyfle i ddysgu am ficrobioleg a’r cysyniad o duedd drwy wersi ac arbrofion. Rhoddwyd llyfrau labordy i ddisgyblion gofnodi eu canfyddiadau, ac yna cawsant gyfle i ddefnyddio’r wybodaeth i greu posteri. Yr ymweliad â Redwood oedd rhan olaf y rhaglen, lle cyflwynwyd y plant i wyddonwyr go iawn. Cawsant gyflwyniad i’w gwaith ymchwil, a chyfle hefyd i ddysgu am niwrowyddoniaeth trwy Gemau Ymennydd y brifysgol. Yn ogystal â hyn, roedd cwmni adeiladu Willmott Dixon wrth law i ddysgu gwerth gwaith tîm wrth weithio ar brosiectau peirianneg. Yn olaf, cafodd y posteri eu hasesu gan dîm o academyddion a dyfarnwyd gwobrau.

Yn ystod y diwrnodau o dan sylw, croesawodd yr Ysgol y Cynghorydd Sarah Merry hefyd, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, ac roedd wrth ei bodd yn gweld y fenter ar waith. "Rydym yn gwerthfawrogi ein partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd – ac mae'r gwaith gyda'r Ysgol Fferylliaeth wedi bod yn arbennig o gyffrous.  Rwy'n gwybod bod yr ysgolion wedi gwerthfawrogi'r sesiynau ac, yr un mor bwysig â hynny, cafodd y disgyblion lawer o hwyl ynddynt - gyda lwc, bydd hyn yn eu hannog i weld pa mor gyffrous yw astudio pynciau STEM."

Dr. Jen
Dr Jennifer Wymant

Yn ystod y Sesiynau Gwyddoniaeth, cynhyrchwyd fideos hefyd, yn gofyn y cwestiynau, "Beth yw gwyddoniaeth?" a "Beth yw gwyddonydd?". Roedd y rhain yn canolbwyntio ar y neges bod gwyddoniaeth yn ymwneud â bod yn chwilfrydig, a gall unrhyw un fod yn wyddonydd. Fe wnaeth un o’r ysgolion, St Monica, helpu i gynhyrchu’r fideos a gaiff eu defnyddio mewn mentrau ymgysylltu cyhoeddus yn y dyfodol.

Gyda lwc, bydd y sesiynau gwyddoniaeth yn fan cychwyn ar gyfer gweithgareddau ehangu cyfranogiad ymhellach. Maent wedi cynnwys Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer athrawon yn y rhaglen i alluogi athrawon ysgolion cynradd i gyflwyno gwersi gwyddoniaeth ar lefel uchel i'w disgyblion. Credir bod prinder sgiliau mewn pynciau STEM yn costio £1.5bn y flwyddyn i’r DU, yn ôl STEM Learning, darparwr mwyaf addysg STEM a chymorth gyrfaoedd yn y DU.

Scientist Drawing
Gofynnwyd i'r plant dynnu llun o wyddonydd

Dywedodd Dr Wymant am y digwyddiad, “Roedd yn hyfryd croesawu disgyblion ysgol gynradd Cathays i Redwood. Roeddent wedi gweithio’n galed iawn yn y ddwy sesiwn yn yr ysgol ac roedd yn wych gweld sut y datblygodd eu dirnadaeth o wyddoniaeth a gwyddonwyr dros amser. Dyma ymweliad cyntaf rhai o’r disgyblion i brifysgol ac roedd yn braf gweld eu cyffro a’u brwdfrydedd dros wyddoniaeth a’r brifysgol. Rwy’n gobeithio bod yr ymweliad wedi dangos i’r plant bod gwyddoniaeth ac addysg uwch yn gyffrous, diddorol ac ar gael i bawb.”

Gellir gweld y fideos "Beth yw gwyddoniaeth?" a "Beth yw gwyddonydd?" yma, ac yma.

Brain Games
Gemau’r Ymennydd

Rhannu’r stori hon