Ewch i’r prif gynnwys

Tîm y tiroedd yn cystadlu am wobr werdd

11 Medi 2018

Cardiff University sports fields from pavilion
Cardiff University sports fields from pavilion

Mae staff cynnal a chadw tiroedd Prifysgol Caerdydd wedi cyrraedd rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol am wyrddio'r amgylchedd.

Bydd y tîm yn cystadlu ar gyfer gwobr Strategaeth Amgylcheddol ac Ecoleg Ransomes yng Ngwobrau Diwydiant y Sefydliad Gofalwyr Tir ym mis Hydref.

Mae gan dîm cynnal a chadw tiroedd y Brifysgol hanes o gyflwyno syniadau gwyrdd arloesol ar draws y Campws.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r tîm wedi:

  • creu cynefin bach sy'n addas i fwydod ar safle cyfrinachol ar gampws canolog Prifysgol Caerdydd, ac yn ddiweddar cofnodwyd bod mwy ohonynt wedi cael eu gweld nag erioed o'r blaen;
  • datblygu cyfres o flychau ar gyfer ystlumod, a'u lleoli ar safle arall ym Mhrifysgol Caerdydd lle mae ystlumod lleiaf yn ymweld yn rheolaidd gyda'r nos;
  • ennill grant Dŵr Cymru i blannu 2,000 o glychau'r gog yr hydref hwn i gryfhau nifer y rhywogaethau clychau'r gog brodorol.

Dywedodd y Rheolwr Tîm, Paul Lidster: "Rydyn ni wrth ein bodd i fod ar y rhestr fer ar gyfer y wobr hon. Rydyn ni'n ymdrechu i fod yn arloesol drwy 'wyrddio' ein tiroedd ar draws y Brifysgol – gan gynnwys caeau chwaraeon a safleoedd preswyl myfyrwyr. Mae'r enwebiad ar gyfer y wobr hon yn dangos gwaith caled, creadigrwydd ac ymrwymiad y tîm drwy gydol y flwyddyn."

Mae tîm cynnal a chadw tiroedd Prifysgol Caerdydd yn ychwanegu at ei lwyddiannau blaenorol. Enillodd y tîm y Wobr Hyrwyddwyr Amgylcheddol yng Ngwobrau Gwyrdd y Brifysgol 2017, ynghyd â helpu'r tîm Cyfleusterau Campws i ennill Gwobr Gwella Amgylcheddol genedlaethol.

Mae Gwobrau Diwydiant y Sefydliad Gofalwyr Tir yn cydnabod brwdfrydedd ac ymrwymiad staff y tiroedd, gwirfoddolwyr, a gweithwyr proffesiynol chwaraeon ar bob lefel, ynghyd â'r heriau maent yn eu hwynebu.

Cynhelir y Gwobrau yn Metropole Hilton Birmingham ar 31 Hydref.

Rhannu’r stori hon

Darllenwch ein polisïau amgylcheddol i ddysgu sut rydym yn ymgorffori cynaliadwyedd ar draws ein gweithrediadau.