Ewch i’r prif gynnwys

Sector diodydd Cymru yn anelu’n uchel

5 Medi 2018

Co-Growth workshop delegates

Bydd arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd ym meysydd logisteg, gweithrediadau a rheoli’r gadwyn gyflenwi yn mynd ati i drawsnewid ymarfer y diwydiant alcohol yng Nghymru wedi gweithdy a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod.

Nod y prosiect Collaborative Operations for Growth (Co-Growth neu Twf ar y Cyd), dan arweiniad Dr Vasco Sanchez Rodrigues, yw nodi a modelu cyfleoedd i gynhyrchwyr diodydd yng Nghymru gydweithio er mwyn cyflawni twf gwyrdd am fuddsoddiad isel yn y sector.

Trwy gyfres o grwpiau ffocws bydd Dr Rodrigues, ochr yn ochr â’i gydweithwyr yr Athro Maneesh Kumar, Dr Maryam Lotfi, Dr Irina Harris, Dr Martin Chorley, yr Athro Mohamed Naim ac Angharad Kearse, yn helpu i hwyluso cydweithrediad ymhlith bragwyr, gwinllannau, cynhyrchwyr sudd a busnesau diodydd meddal Cymru, trwy ddefnyddio dull clwstwr.

Effaith sylweddol

Dywedodd Dr Rodrigues, Athro Cyswllt mewn Logisteg a Rheoli Gweithrediadau yn Ysgol Fusnes Caerdydd,: “Bydd y dull gweithredu hwn yn helpu cynhyrchwyr diodydd i wneud penderfyniadau effeithiol ar draws eu portffolio o weithrediadau...”

“Byddan nhw’n gallu pwyso a mesur pryd i gydweithio, gyda phwy, a beth yw’r manteision a’r heriau posibl, mewn ffordd sy’n amhosib i’r sector ar hyn o bryd.”

Yr Athro Vasco Sanchez Rodrigues Professor in Sustainable Supply Chain Management

Mae Sector Diodydd Cymru, sy’n cyflogi bron 2,000 o bobl ac â throsiant o ryw £816 miliwn, yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r economi, yn arbennig mewn rhannau o’r Gymru wledig.

Mae disgwyl i’r gweithgareddau mae Twf ar y Cyd yn eu hyrwyddo gael effaith sylweddol ar gynhyrchwyr diodydd Cymru, gan gynnwys twf, enillion wrth fuddsoddi, defnydd o ddŵr ac ynni, ôl-troed carbon a chynhyrchiant.

Cryfach ar y Cyd

Bu’r gweithdy, a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â WRAP Cymru, yn gyfle i ddod â chynrychiolwyr ynghyd o bum bragdy yng Nghymru, sef Felinfoel, Tomos & Lilford, Wilderness, Leftbank a Brewmonster, yn ogystal â  BIC Innovation a’r Welsh Drinks Cluster, i rannu eu profiadau o gydweithio, a sut gellid mynd i’r afael â’r heriau a’r risgiau sy’n gysylltiedig â chydweithio.

Wedi cyflwyniad gan Dr Rodrigues, cafwyd cyflwyniadau gan Mark Grant, Cyfarwyddwr Cyswllt  Levercliff Associates.

Mark Grant, Levercliff presenting

Siaradodd Mr Grant ar ran y Welsh Drinks Cluster, gan amlinellu’r cynnydd hyd yma a sut maen nhw’n bwriadu gweithio gyda Thîm Prosiect Twf ar y Cyd i gyflawni llifoedd gwaith a heriau gweithredu a nodwyd gan aelodau’r clwstwr.

Dilynwyd hynny gan Hugh Jones, Rheolwr Ardal y Rhaglen WRAP Cymru, sy’n arbenigwyr ar economi gylchol, yn rhoi manylion yr adnoddau sydd ganddynt i’w cynnig o dan eu menter ‘Newid Cydweithredol - Cryfach ar y Cyd’, yn arbennig yng nghyswllt lleihau gwastraff plastig.

Daeth Dr Maryam Lotfi â’r cyflwyniadau i ben trwy amlinellu enghreifftiau o ddulliau clwstwr a fabwysiadwyd gan fragdai bach a meicro yn UDA, yr Eidal, Sbaen a Seland Newydd.

Y ffordd ymlaen

I gloi’r gweithdy cafwyd sesiwn ryngweithiol dan arweiniad yr Athro Maneesh Kumar.  Bu’r rhai oedd yn bresennol yn rhannu eu profiadau o gydweithio er mwyn amlinellu ffiniau’r prosiect a pharatoi’r ffordd ymlaen.

Cynhelir Grŵp Ffocws cyntaf prosiect Twf ar y Cyd ym Mragdy Rhymney, Blaenafon, ar 13 Medi 2018.

I wneud ymholiadau, cysylltwch:

Angharad Kearse

Angharad Kearse

External Engagement Officer, Executive Education

Siarad Cymraeg
Email
kearsee@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2251 0873

Rhannu’r stori hon

Explore our industry links and engagement activities.