Ewch i’r prif gynnwys

Papur ymchwil am famolaeth yn ennill gwobr flaenllaw BMJ

5 Mehefin 2018

BMJ award

Mae Julia Sanders, Athro Nyrsio Clinigol a Bydwreigiaeth yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, a Darlithydd Bydwreigiaeth, Lynn Lynch o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, wedi ennill gwobr BMJ ar gyfer Papur Ymchwil y Flwyddyn yn y DU, fel aelodau o'r Grŵp Cydweithredol Treialon Epidwrol a Safle BUMPES.

Roedd y papur, a gyhoeddwyd yn BMJ fis Hydref diwethaf, yn disgrifio canlyniadau treial BUMPS a oedd yn archwilio a yw safle mamau sy'n geni am y tro cyntaf gydag epidwrol dos isel yn ystod rhan olaf y cyfnod esgor yn cynyddu'r tebygolrwydd o gael genedigaeth arferol heb ymyriadau fel gefeiliau neu doriad Cesaraidd. Erbyn hyn, epidwrol dos isel yw’r dull lleddfu poen epidwrol safonol sy’n cael ei gynnig i fenywod yn ystod y cyfnod esgor – mae tua 30% o fenywod sy’n rhoi genedigaeth yn y DU yn ei ddewis.

Roedd BUMPES yn Hap-dreial ar raddfa fawr dan arweiniad Yr Athro Peter Brocklehurst, o Uned Treialon Clinigol Birmingham. Cafodd dros 3000 o fenywod a oedd yn disgwyl eu babi cyntaf eu recriwtio o 41 safleoedd a oedd yn cymryd rhan ledled y DU rhwng Hydref 2010 ac Ionawr 2014, gan gynnwys 296 o fenywod o Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Daeth yr astudiaeth i'r casgliad bod menywod sy'n gorwedd ar eu hochr, un hytrach na bod mewn safle unionsyth, yn ystod y rhan olaf o'r cyfnod esgor, yn fwy tebygol o eni'r babi heb gymorth meddygol.

Roedd canlyniadau’r treial, a gafodd ei ariannu gan y Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol, yn cynnig gwybodaeth newydd bwysig i fydwragedd ac yn gallu helpu menywod beichiog i wneud dewisiadau gwybodus am eu safle yn ystod ail gam y cyfnod esgor.

Meddai Julia Sanders, Athro Nyrsio Clinigol a Bydwreigiaeth, Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: "Fel tîm roeddem wrth ein bodd i ennill y wobr hon. Mae’r astudiaeth hon yn dangos pa mor bwysig yw cwestiynu’r gofal rydym yn ei gynnig i fenywod, ac mae wedi dangos bod yna bethau syml y gallwn ni eu gwneud i helpu menywod sy’n cael epidwrol i leddfu poen i gael genedigaeth arferol yn unol â’u dymuniadau".

"Yn ogystal, dangosodd yr astudiaeth pa mor bwysig yw sicrhau bod unedau mamolaeth yn cydweithio, a bod bydwragedd yn gallu recriwtio’r nifer fawr o fenywod sydd eu hangen mewn treialon clinigol i roi atebion clir i gwestiynau ymchwil pwysig."

Dechreuodd Julia ei hymchwil gydag Uned Treialon De Ddwyrain Cymru, sef y Ganolfan Treialon Ymchwil erbyn hyn, y grŵp mwyaf o staff treialon clinigol academaidd yng Nghymru, ac mae hi'n dal i gydweithio â'r Ganolfan ar nifer o feysydd ymchwil pwysig. Mae'r Ganolfan yn helpu Prif Ymchwilwyr ar draws y Brifysgol a thu hwnt i gynnal ymchwil o safon i lywio tystiolaeth glinigol.

Mae'r papur buddugol ar gael yma https://www.bmj.com/content/359/bmj.j4471

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ddeinamig, yn arloesol ac yn flaengar, a chydnabyddir ein rhagoriaeth ym meysydd dysgu, addysgu ac ymchwil.