Ewch i’r prif gynnwys

Abertawe a Chaerdydd yn cydweithio i helpu economi Cymru

1 Mehefin 2018

People working in the clean room

Mae Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe yn cydweithio mewn menter gwerth £3.2m i helpu busnesau Cymru i ddefnyddio technolegau nano a micro arloesol newydd.

Bydd Canolfan NanoIechyd Prifysgol Abertawe, Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru a Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Prifysgol Caerdydd yn cynnig arbenigedd a chyfleusterau o'r radd flaenaf i gwmnïau sy'n datblygu technolegau, cynhyrchion neu brosesau newydd neu rai sydd eisoes yn bodoli.

Bydd y prosiect, sydd wedi'i gefnogi gan £1.8m o gyllid yr UE, yn cynnig cefnogaeth dechnegol ac arbenigol i roi cwmnïau ar flaen y gad o ran arloesedd mewn sectorau megis gofal iechyd, lled-ddargludyddion, pecynnu a deunyddiau print swyddogaethol.

Bydd hefyd yn helpu hyd at 20 o fentrau cydweithredol i fynd ati i ddatblygu cynhyrchion newydd sy'n barod ar gyfer y farchnad.

ICS

Dywedodd yr Athro Peter Smowton, Rheolwr Gyfarwyddwr y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd: "Mae Prifysgol Caerdydd ac ICS yn croesawu'r cyfle hwn i rannu sgiliau a galluoedd â Phrifysgol Abertawe..."

Drwy gydweithio, gall y byd academaidd fod o fudd i economi Cymru a'r gymuned ehangach drwy greu sgiliau i bobl hynod fedrus.

Yr Athro Peter Smowton Deputy Head of School and Director of Research

Wrth gyhoeddi'r arian, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, yr Athro Mark Drakeford: "Mae gwneud yn siŵr bod gan fusnesau o Gymru fynediad at wybodaeth ac arbenigedd yn ein prifysgolion arobryn yn hanfodol i ysgogi arloesedd a rhoi Cymru mewn sefyllfa i lwyddo yn fyd-eang. Mae hon yn enghraifft gadarnhaol arall o sut mae Llywodraeth Cymru'n buddsoddi arian yr UE i hybu ffyniant a swyddi.

"Mae hefyd yn dangos pa mor bwysig yw sicrhau arian i gymryd lle arian yr UE ar ôl Brexit, er mwyn i ni allu parhau i gyflawni cynlluniau fel hyn, sydd o fudd i bobl a'r economi."

Dywedodd arweinydd Prifysgol Abertawe ar gyfer thema lled-ddargludyddion cyfansawdd y prosiect, Dr Matt Elwin:"Bydd y prosiect hwn yn sicrhau bod gan sector diwydiannol yr ardal fynediad at dri chyfleuster ymchwil o'r radd flaenaf, sy'n cynnig gwasanaeth arbenigol unigryw a thechnolegau newydd i gyflymu'r gwaith o ddatblygu cynhyrchion.

"Rydym yn gyffrous iawn i weithio gyda byd diwydiant yn y maes hwn, ac edrychwn ymlaen at ddatblygu mentrau cydweithredol hirdymor i ddatblygu technolegau perthnasol ar gyfer cynhyrchion cenhedlaeth nesaf at y dyfodol."