Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilwyr yn nodi "arogl" a gaiff ei ryddhau gan blant sydd wedi'u heintio â malaria

18 Ebrill 2018

Mosquito on human skin

Mae astudiaeth newydd wedi canfod fod plant sydd wedi'u heintio â malaria yn rhyddhau arogl unigryw trwy eu croen sy'n eu gwneud hyd yn oed yn fwy deniadol i fosgitos.

Mewn astudiaeth newydd a gyhoeddwyd heddiw, mae tîm sy’n cynnwys gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd wedi gallu adnabod yr olion cemegol unigryw hyn am y tro cyntaf. Mae hyn yn agor y posibilrwydd o ddatblygu system i ddenu mosgitos oddi wrth boblogaethau dynol.

Trwy astudio samplau a gymerwyd gan 56 o blant yng ngorllewin Kenya, nododd y tîm arogl "ffrwythau a glaswellt" oedd yn cael ei ryddhau drwy groen unigolion a oedd wedi'u heintio â’r paraseit malaria, Plasmodium.

Dangosodd dadansoddiadau o union natur a chrynodiad yr arogl bod grŵp o gyfansoddion a elwir yn aldehydau – yn benodol heptanal, octanal a nonanal – yn gyfrifol am yr arogl unigryw.

Dangosodd y canlyniadau bod y gyfran o aldehydau yn cynyddu o tua 15% o gyfanswm yr arogl mewn unigolion nad oeddent wedi'u heintio i bron i 23% mewn unigolion a oedd wedi'u heintio, gyda swm uwch o aldehydau yn cael ei rhyddhau yn unol â dwysedd uwch o baraseitiaid yn y gwaed.

Mae’r canlyniadau wedi'u cyhoeddi yn y cyfnodolyn gwyddonol blaenllaw Proceedings of the National Academy of Sciences.

Cyd-awdur yr astudiaeth, yr Athro John Pickett FRS, o Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd, oedd y cyntaf i adnabod fferomonau mosgito yn yr 1980au, ac mae’n credu y gallai’r canfyddiadau newydd helpu i ddatblygu system i 'ddal' mosgitos sy'n cario malaria.

Meddai: "Yn yr astudiaeth hon, rydym ni wedi nodi’r olion cemegol sylfaenol, sy'n cynnwys aldehydau anweddol penodol, sy’n rhyddhau fel arogl pan gaiff pobl eu heintio gan baraseitiaid malaria.

"Mae’r syniad hwn o system gwthio-tynnu eisoes ar waith i reoli plâu mewn cnydau ledled Affrica is-Sahara."

Yn eu hastudiaeth, casglodd y tîm samplau aroglau gan 56 o blant rhwng 5 a 12 oed yn Kenya drwy osod bag plastig arbennig o amgylch troed pob plentyn.

Dadansoddwyd yr aroglau traed a gasglwyd ar hidlydd gan Dr Ailie Robinson, o Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain, a aeth ati hefyd i astudio a oedd "trwyn" y mosgito yn ymateb yn wahanol i arogleuon plant gyda malaria a phlant heb falaria.

Gan ddefnyddio sanau neilon a wisgwyd gan y plant am un noson, dangoswyd bod aroglau cyrff plant gyda malaria wir yn fwy deniadol i fosgitos nag arogleuon plant heb falaria.

Meddai prif awdur yr astudiaeth, Dr Jetske de Boer o Brifysgol Wageningen yn yr Iseldiroedd: "Mae'r rhain yn arogleuon eithaf cyffredin, a ddisgrifir fel arogleuon ffrwythau neu laswellt. Ond i fosgitos malaria, maent yn ddeniadol iawn.

"Nawr ein bod ni wedi nodi a mesur yr aldehydau sy'n gysylltiedig â haint malaria, rydym ni’n deall rhagor am lwybr heintio’r paraseit. Mae hynny hefyd yn creu cyfleoedd i ymyrryd yn y gadwyn honno. Gallwn wella ein trapiau abwyd aroglau ar gyfer mosgitos drwy ychwanegu cryn dipyn o’r atynwyr hyn.

"At hynny, gall y cyfansoddion hyn weithredu fel biofarcwyr er mwyn datblygu adnoddau diagnostig, heb i’r meddyg orfod tynnu gwaed. Byddai hyn yn gyflymach ac yn llawer mwy addas i blant."

Rhannu’r stori hon