Ewch i’r prif gynnwys

Absent phosphorus questions possible life on other planets

5 Ebrill 2018

ailen life phosphorus

Gallai diffyg amlwg yr elfen gemegol ffosfforws mewn rhannau eraill o’r Bydysawd ei gwneud hi’n anodd iawn i fywyd annaearol fodoli yno.

Dyna farn arbenigwyr ym Mhrifysgol Caerdydd sydd wedi canfod ychydig iawn o dystiolaeth o‘r elfen - sy’n hanfodol i fywyd ar y Ddaear - o amgylch Nifwl y Cranc, olion uwchnofa ryw 6,500 o flynyddoedd golau i ffwrdd i gyfeiriad cytser y Tarw.

Gan fod ffosfforws yn un o’r chwe elfen y mae organebau’r Ddaear yn dibynnu arnynt, mae’r canfyddiadau hyn yn bwrw amheuaeth ar y dybiaeth y gallai bywyd cyffelyb i’r eiddom fodoli ar blanedau eraill.

Meddai Dr Jane Greaves, o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae ffosfforws yn hollbwysig i’r cyfansoddyn adenosin triffosffad (ATP) y mae celloedd yn ei ddefnyddio i storio a throsglwyddo egni. Mae seryddwyr newydd ddechrau rhoi sylw i darddiad cosmig ffosfforws ac maent wedi canfod ambell i beth annisgwyl. Yn benodol, fe’i crëir mewn uwchnofâu - ffrwydradau sêr anferthol - ond nid yw’r symiau a welwyd hyd yma yn cyfateb i’n modelau cyfrifiadurol.

Defnyddiodd y tîm Delesgop Herschel William y DU ar La Palma yn yr Ynysoedd Dedwydd er mwyn arsylwi golau isgoch oddi wrth ffosfforws a haearn o amgylch Nifwl y Cranc.

Roedd ymchwilwyr eraill eisoes wedi astudio’r olion uwchnofaol Cassiopeia A am dystiolaeth o ffosfforws, ac felly roedd y tîm o Brifysgol Caerdydd yn gallu cymharu’r ddau ffrwydrad serol ar sail faint o ffosfforws y gwnaethant ei ollwng i’r atmosffer.

"Ar gyfer y rhannau o Nifwl y Cranc yr oeddem yn gallu eu harsylwi hyd yma, ymddengys fod llai o ffosfforws nag yng Cassiopeia A. Mae’n ymddangos bod y ddau ffrwydrad yn wahanol i’w gilydd, o bosib am fod Cassiopeia A yn deillio o ffrwydrad seren oruwch-fawr brin.”

Mae’r canlyniadau cychwynnol yn awgrymu y gallai deunydd a chwythir i’r gofod amrywio’n fawr iawn o ran cyfansoddiad cemegol.

“Mae’r llwybr ar gyfer cludo ffosfforws i’r planedau newydd-anedig yn edrych braidd yn ansicr. Rydym eisoes yn credu mai dim ond ychydig o’r mwynau a oedd yn cludo ffosfforws i’r Ddaear - meteorynnau, yn ôl pob tebyg - a oedd yn ddigon adweitheddol i fod ynghlwm wrth wneud proto-fiomoleciwlau”, ychwanegodd Greaves.

“Os daw’r ffosfforws o uwchnofâu, ac yna’n teithio ar draws y gofod mewn creigiau meteorynnol, mae’n bosib y gallai planed ifanc ei chael ei hun yn brin o ffosfforws adweitheddol oherwydd lle’i ganed. Hynny yw, dechreuodd ger y math anghywir o uwchnofa. Yn yr achos hwnnw, gallai bywyd gael trafferth ymsefydlu o’r gemeg ffosfforws-isel, ar fyd arall a fyddai fel arall yn debyg i’r eiddom.”

Mae Graves a Cigan wedi cyflwyno eu canlyniadau rhagarweiniol yn ystod Wythnos Seryddiaeth a’r Gofod Ewrop yn Lerpwl, ac maent wedi gwneud cais am ragor o oriau telesgop er mwyn parhau â’u gwaith a phennu a yw olion uwchnofaol eraill hefyd yn brin o ffosfforws, ac a yw’r elfen hon, sydd mor bwysig ar gyfer bywyd cymhleth, yn brinnach nag yr oeddem yn tybio.

Rhannu’r stori hon

Dyma Ysgol gyfeillgar, y mae’n hawdd troi ati, gydag ymrwymiad cryf i ragoriaeth wrth addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf mewn ffiseg a seryddiaeth.