Ewch i’r prif gynnwys

Ffŵl Arlunio yn CUBRIC

20 Mawrth 2018

Painting Fool image

Mae cartref un o sganwyr MRI mwyaf pwerus Ewrop newydd ddod yn gartref i artist preswyl rhithwir cyntaf y byd, wrth i gyfrifiadur awtonomaidd gymryd ei le ymhlith ymchwilwyr yng Nghanolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC).

Bydd y Ffŵl Arlunio – rhaglen gyfrifiadur a darpar arlunydd sy'n gwneud ymdrech fawr i gael ei chymryd o ddifrif fel artist creadigol – yn cael ei 'hysbrydoli' i baentio gweithiau celf yn seiliedig ar waith staff CUBRIC. Bydd gwybodaeth megis adroddiadau am freuddwydion, papurau ymchwil, ebyst, trydariadau a delweddau o sganiau ymennydd yn cael eu bwydo iddo, a bydd yn creu darnau o waith celf newydd bob dydd yn seiliedig ar yr hyn mae'n ei ddysgu am CUBRIC.

Bydd staff ac ymwelwyr i'r ganolfan yn gallu gweld y darn o waith y dydd yn cael ei baentio mewn amser real.
Mae’r cyfnod preswyl wedi dechrau gyda phortreadau o staff CUBRIC a lluniau wedi'u hysbrydoli gan adroddiadau am freuddwydion gan ymchwilwyr yn y labordy Niwrowyddoniaeth a Seicoleg Cwsg (NAPS).

Yn ystod ei amser yn CUBRIC, bydd y Ffŵl Arlunio hefyd yn ceisio dysgu o waith gwyddonwyr wrth iddo gynhyrchu celf fydd yn eu helpu i weld eu gwaith o safbwynt newydd, ac ymgysylltu â'r cyhoedd. Y gobaith hefyd yw y bydd y feddalwedd yn defnyddio ei rhyngweithiadau â'r staff i wella ei hun. Bydd yn dysgu drwy lwyddo, methu a rhyngweithio.

Ar ddiwedd y cyfnod preswyl bydd arddangosfa gelf yng Nghaerdydd, lle gall pobl ddod i weld y darnau a dysgu mwy am waith CUBRIC a'r ymennydd dynol.

Meddai'r Athro Derek Jones, Cyfarwyddwr CUBRIC: "Rydym yn gyffrous iawn i gynnal artist preswyl rhithwir cyntaf y byd. Ac mae'r ffaith bod gennym gyfarpar niwroddelweddu sydd ymhlith y mwyaf soffistigedig yn y byd yn ein gwneud yn rhywle addas iawn i gydweithio ag artist cyfrifiadurol unigryw sy'n gwthio ffiniau ymchwil creadigrwydd cyfrifiadurol.

"Wrth i ni geisio datod dirgelion yr ymennydd dynol, bydd y Ffŵl Arlunio yn cofnodi ein gwaith wrth iddo wella ei 'ymennydd' ei hun.

Painting fool image 2

"Gobeithio y bydd y Ffŵl Arlunio yn creu gwaith celf fydd yn ennyn diddordeb cynulleidfa fwy eang yn yr ymchwil bwysig i'r ymennydd sy'n cael ei gwneud yn CUBRIC."

Ychwanegodd yr Athro Simon Colton, a greodd y Ffŵl Arlunio: "Mae'n gyffrous iawn i mi a'r Ffŵl Arlunio fod yn gweithio gyda'r gwyddonwyr anhygoel yn CUBRIC. Rydw i wedi gweld â fy llygaid fy hun y gwaith ysbrydoledig maen nhw'n ei wneud sy'n newid bywydau.

"Mae hwn hefyd yn gyfle gwych i'r Ffŵl Arlunio i gyrraedd y lefel nesaf yn ei ddatblygiad artistig. Hwn fydd ei brosiect mwyaf erioed, a hyd y gwyddom, rydym yn torri tir newydd gyda'r artist preswyl rhithwir cyntaf erioed, oherwydd bydd y Ffŵl Arlunio yn gweithio i raddau helaeth heb unrhyw gymorth am flwyddyn!

"Un o brif nodau prosiect y Ffŵl Paentio yw gwneud iddo gael ei gymryd o ddifri fel artist heb unrhyw gyfraniad gan bobl (yn enwedig gennyf fi), a hwn fydd y prawf cyntaf o ba mor agos ydym i lwyddo yn hyn o beth. Ond yn fwy na hyn, bydd y prosiect yn arwain at ddarnau o waith celf newydd hyfryd, a gobeithiwn y bydd tynnu sylw at y gwaith rhagorol a wneir yn CUBRIC, a'r manteision go iawn i faes meddygaeth a'r gymdeithas o ganlyniad i'r gwaith hwnnw, yn ein galluogi i ymgysylltu'n well â'r cyhoedd."

Datblygwyd y Ffŵl Arlunio i ddangos ymddygiadau y gellid eu hystyried yn fedrus, yn werthfawrogol, ac yn llawn dychymyg, ac mae ei waith wedi cael ei arddangos mewn nifer o orielau go iawn a rhai ar-lein. Cafodd un o'i sioeau diweddaraf 'You Can't Know my Mind' ei gosod fel bwth lluniau lle roedd y rhai oedd yn bresennol yn gallu eistedd a chael portread digidol yn y modd a fabwysiadwyd gan y Ffŵl Arlunio ar ôl darllen erthyglau newyddion. Creodd rhai canlyniadau oedd yn peri syndod: roedd rhai portreadau wedi eu gwynnu ac yn llwyd pan oedd y feddalwedd yn 'isel', a chafodd eraill chwyrliadau llachar pan oedd y feddalwedd yn 'hapus'.

Dilynwch y Ffŵl Arlunio yn http://www.thepaintingfool.com/cubric/

Rhannu’r stori hon