Ewch i’r prif gynnwys

Lansio Rhwydwaith Gwybodaeth am Gynhyrchiant ESRC

18 Ionawr 2018

ESRC Productivity Insights Network

Mae academyddion Prifysgol Caerdydd yn chwarae rhan allweddol yn Rhwydwaith Gwybodaeth am Gynhyrchiant newydd y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).

Bydd y rhwydwaith newydd, a lansiwyd y mis hwn, yn 'asesu cyflwr ymchwil am gynhyrchiant yn y DU; gwella ein dealltwriaeth o'r ffactorau sy'n effeithio ar ein cynhyrchiant ac yn llywio sut y caiff strategaethau ac ymchwil newydd eu datblygu.'

Prifysgol Sheffield sy’n arwain y prosiect hwn sy'n cynnwys naw prifysgol i gyd. Yr Athro Andrew Henley o Ysgol Busnes Caerdydd, a'r Athro Rob Huggins, o'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, yw'r ddau gyd-ymchwilydd sy'n cynrychioli Prifysgol Caerdydd yn y rhwydwaith.

Bydd yr Athro Huggins yn cyd-arwain ar thema ymchwil sy'n ymwneud â thechnoleg, arloesedd a chystadleurwydd. Bydd yr Athro Henley, ochr yn ochr â'r Athro Rick Delbridge, o Ysgol Busnes Caerdydd, yn gweithio gydag arweinwyr y prosiect - yr Athrawon Philip McCann a Tim Vorley o Brifysgol Sheffield - i ddarparu dealltwriaeth fwy integredig o'r her ym maes cynhyrchiant.

Yn ogystal â darparu arweinyddiaeth a bod yn fforwm ar gyfer cydweithio, bydd y rhwydwaith yn:

  • Dod â grwpiau ymchwil rhyngddisgyblaethol ynghyd yn ogystal â rhwydweithiau eraill yn y byd academaidd, llunio polisïau a busnes
  • Hyrwyddo'r defnydd o ddulliau arloesol
  • Datblygu cyfres o astudiaethau ar raddfa fach
  • Cyflenwi (a chydweithredu ag) agendâu ymchwil sydd eisoes yn bodoli, p'un a ydynt yn cael eu hariannu gan ESRC ai peidio
  • Cyfrannu at ddatblygu polisïau
  • Cynnal cystadlaethau ar raddfa fach i ddyrannu arian i academyddion y tu allan i'r rhwydwaith i ymgymryd â phrosiectau perthnasol.

Dywedodd yr Athro Henley: "Rydw i wrth fy modd bod Prifysgol Caerdydd yn rhan o'r consortiwm a ddewiswyd i gyflwyno'r rhaglen ymchwil newydd hynod bwysig hon. Mae’n mynd i’r afael ag un o'r heriau anoddaf sy'n wynebu busnes yn y DU a'i goblygiadau i werth cyhoeddus ehangach.

"Un o'r rhesymau dros lwyddiant y consortiwm hwn yw ei fod yn bwriadu mabwysiadu ymagwedd leol iawn gan adlewyrchu'r ffaith y gallai gyrwyr cynhyrchiant a thwf busnes fod yn wahanol iawn yng Nghymru, ac mewn ardaloedd eraill o'r DU, i'r rheini yn Llundain de-ddwyrain Lloegr.”

Dywedodd yr Athro Huggins: "Mae'r darlun o gynhyrchiant, o ran faint o gyfoeth sy'n cael ei gynhyrchu gan fusnes, yn amrywio'n fawr o ranbarth i ranbarth. Gyda lwc bydd ein hymchwil yn rhoi dealltwriaeth bwysig i lywodraethau a rhanddeiliaid polisi allweddol pam y gallai hyn fod yn wir, yn ogystal â rhoi gwybod iddynt lle y dylent fod yn canolbwyntio eu hadnoddau, er mwyn iddynt allu helpu busnesau i gystadlu ar y llwyfan cenedlaethol a rhyngwladol.

"Drwy ddadansoddi rhanbarthau unigol fel Cymru, byddwn yn ymchwilio i strategaethau a fydd yn sicrhau bod economi'r DU yn ffynnu am genedlaethau i ddod."

Rhannu’r stori hon