Ewch i’r prif gynnwys

Llysgennad UDA ar gyfer y DU yn ymweld â Phrifysgol Caerdydd

22 Mai 2015

US Ambassador to the United Kingdom stands with 2 staff members in front of banners

Rhoddwyd croeso cynnes heddiw i Matthew W Barzun, Llysgennad UDA ar gyfer y DU, i Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Prifysgol Caerdydd.

Penodwyd Barzun yn Llysgennad yr Unol Daleithiau yn 2013, ac ers hynny, mae wedi dod yn adnabyddus am ei ffordd flaengar o ymgymryd â'r rôl, gan sefydlu ffyrdd arloesol a chynhwysol o ryngweithio â chynulleidfaoedd Prydain. Mae Barzun wedi graddio o Brifysgol Harvard, ac mae'n gyn-swyddog gweithredol y Rhyngrwyd. Bu hefyd yn gwirfoddoli ar ddwy o ymgyrchoedd arlywyddol Obama. Mae ganddo bresenoldeb cyson ar Twitter, ac mae'n dosbarthu cardiau busnes sy'n gwahodd derbynwyr i anfon negeseuon trydar ato, er mwyn rhannu eu rhwystredigaethau a'u dyheadau ar gyfer America.

Gwelwyd llawer o ddiddordeb yn ymweliad Barzun, ac roedd dros 200 o bobl wedi cofrestru i ddod i'r sgwrs, "America's Role in the World: Hands on or Hands off?" ymhen 24 awr ar ôl ei chyhoeddi.

Ar ôl i'r Athro Daniel Wincott, Pennaeth y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, ei gyflwyno, dechreuodd y Llysgennad Barzun ei sgwrs afaelgar drwy ofyn i'r gynulleidfa am sylwadau am rôl yr Unol Daleithiau ym materion y byd. Cafwyd ymateb brwdfrydig, ac roedd y mwyafrif yn meddwl bod yr Unol Daleithiau yn ymyrryd gormod. Ond fel yr esboniodd y Llysgennad Barzun, mae bod ar flaen y gad yn golygu llawer mwy na dim ond ymyrraeth filwrol. Gall hefyd olygu rôl fwy cadarnhaol mewn sefyllfaoedd cymorth dyngarol, sancsiynau, diplomyddiaeth neu ariannu, er enghraifft. Aeth yn ei flaen i esbonio nad yw pethau da yn dueddol o ddigwydd pan fydd UDA yn penderfynu peidio â chymryd rhan. Ond gyda "gwyleidd-dra o ganlyniad i wersi a ddysgwyd", mae'r wlad yn cydnabod nad yw cymryd rhan mewn materion byd-eang bob amser o gymorth, gan nodi Fietnam fel enghraifft.

Roedd y Llysgennad Barzun yn awyddus i glywed barn staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Cafwyd trafodaeth lle bu'r Llysgennad yn ateb amrywiaeth o gwestiynau ar bynciau fel Gogledd Korea, rhyfel ar-lein, diddymu troseddau cyffuriau a hawliau dynol. Ar ôl sgwrs amrywiol ac ysgogol, cyflwynodd yr Athro Wincott gopi o'r Mabinogion i'r Llysgennad Barzun, sef llyfr o lên gwerin Cymru wedi'i chyfieithu i'r Saesneg gan Bennaeth Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, yr Athro Sioned Davies, i'w atgoffa o'i amser yng Nghymru.

Meddai'r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: "Roedd yn fraint gan Brifysgol Caerdydd groesawu'r Llysgennad Barzun i Gymru. Mae meithrin cysylltiadau cryf â'r Unol Daleithiau yn hwyluso'r broses o gyfnewid syniadau, gan arwain at fanteision diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd i'r ddwy wlad. Mae'r Llysgennad Barzun yn awyddus i hyrwyddo masnach a buddsoddiad uniongyrchol yng Nghymru, i ddatgloi creadigrwydd ac arloesedd i helpu cwmnïau Cymru i dyfu marchnadoedd ac adeiladu cyfleusterau cynhyrchu yn yr Unol Daleithiau."

Cafodd y Llysgennad Barzun ei gyfarch yn yr Ysgol gan yr Athro Nora de Leeuw o Brifysgol Caerdydd, yr Athro Jonathan Shepherd CBE FMedSci, yr Athro Daniel Wincott, Dr Christian Bueger, Dr Elisa Wynne-Hughes ac ysgolheigion Fulbright, Scottie Coughlin a Hannah Riskin-Jones. Mae Rhaglen Fulbright yn un o raglenni dyfarniadau mwyaf arobryn y byd. Sefydlwyd y rhaglen i gynyddu dealltwriaeth rhwng pobl yr Unol Daleithiau a gwledydd eraill.