Ewch i’r prif gynnwys

Hyfforddi darpar arweinwyr busnes sy'n siarad Cymraeg

29 Tachwedd 2017

Business

Bydd myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn edrych ar rôl y Gymraeg yn y gweithle modern, mewn economi ddigidol, ac wrth hyrwyddo polisi iaith ar ôl lansio gradd newydd sy’n ceisio paratoi graddedigion ar gyfer marchnad lafur sy'n datblygu yng Nghymru.

Nod gradd y Brifysgol, BSc Rheoli Busnes a’r Gymraeg, yw ateb y galw cynyddol am raddedigion busnes o ansawdd uchel sy’n meddu ar allu proffesiynol o ran y Gymraeg, yn dilyn targed y Llywodraeth o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a chyflwyno Safonau’r Gymraeg cyn hir.

Yn ôl yr Athro Martin Kitchener, Deon Ysgol Busnes Caerdydd: “Caerdydd yw prifddinas gwleidyddiaeth, busnes a chyfryngau Cymru, ac rydym am i’r rhaglen fanteisio’n llawn ar y cysylltiadau agos sydd gan y ddwy Ysgol â’r sectorau yma.”

Mae’r radd arloesol ar gael fel gradd Baglor mewn Gwyddoniaeth (BSc), tair blynedd o hyd, gyda'r opsiwn i astudio dramor neu gymryd rhan mewn lleoliad proffesiynol yn rhan o raglen bedair blynedd estynedig.

Ychwanegodd yr Athro Kitchener: "Mae’r cyfle i gael profiad gwaith neu astudio dramor yn ganolog i’n darpariaeth dysgu ac addysgu, sy’n cynnig gwerth cyhoeddus..."

"Drwy sicrhau bod y cyfleoedd hyn ar gael i ddarpar fyfyrwyr BSc Rheoli Busnes a’r Gymraeg, rydym yn ymateb i ddyheadau Cenhadaeth ein Cenedl ar gyfer addysg Llywodraeth Cymru a datblygu dinasyddion byd-eang, ar gyfer Cymru fyd-eang."

Yr Athro Martin Kitchener Athro Rheolaeth a Pholisi’r Sector Cyhoeddus

Mae y BSc yn dod ag arbenigedd o Ysgol Busnes Caerdydd ac Ysgol y Gymraeg ynghyd er mwyn darparu cwrs ar y cyd am y tro cyntaf erioed.

Yn ôl Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd: “Mae’r bartneriaeth hon â'n cydweithwyr yn Ysgol Busnes Caerdydd yn ymateb i’r modd y mae’r gweithle modern yn newid yng Nghymru.

"Mae'n ymwneud â darparu addysg o’r radd flaenaf am fusnes ochr yn ochr â datblygu a chynyddu sgiliau a hyfedredd Cymraeg..."

"Drwy ddarparu’r cwrs hwn, rwy'n hyderus y byddwn yn canfod arweinwyr busnes Cymru yn y dyfodol."

Dr Dylan Foster Evans Pennaeth yr Ysgol

Bydd y modiwlau a gynigir gan Ysgol Busnes Caerdydd yn galluogi ein myfyrwyr i werthfawrogi’r gwahanol feysydd swyddogaethol sy'n ymwneud â sefydliadau busnes. Caiff y rhain eu hategu gan amrywiaeth o fodiwlau fydd yn galluogi myfyrwyr i astudio'r Gymraeg mewn meysydd fel treftadaeth diwydiant, technoleg, cyfieithu, a pholisi iaith a chynllunio.

Nid oes angen i ddarpar ymgeiswyr fod wedi astudio Cymraeg Safon Uwch, ond disgwylir eu bod wedi astudio ar gyfer Safon Uwch drwy gyfrwng y Gymraeg, neu bod ganddynt Gymraeg o’r un safon.

Bydd y rhaglen yn dechrau ym mis Medi 2018. I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs gradd, a sut i wneud cais, ewch i wefan Prifysgol Caerdydd.

Rhannu’r stori hon

Mae ein myfyrwyr yn gwirioni ar Gaerdydd. Beth sy’n gwneud y brifddinas mor ddeniadol?