Mwd o lawr y cefnfor yn datgelu cyfrinachau hinsawdd Ewrop yn y gorffennol

23 Tachwedd 2017

frozen thames

Mae samplau o waddodion o lawr cefnfor Gogledd yr Iwerydd wedi cynnig golwg i ymchwilwyr na welwyd ei debyg erioed ar y rhesymau pam fod hinsawdd Ewrop wedi newid dros y 3000 mlynedd ddiwethaf.

O'r hinsoddau cynhesach yng nghyfnod y Rhufeiniaid pan fyddai gwinllannoedd yn ffynnu yng Nghymru a Lloegr i'r amgylchiadau oerach a arweiniodd at gnydau'n methu, newyn a phandemigau yn yr oesoedd canol cynnar, mae hinsawdd Ewrop wedi amrywio dros y tri mileniwm diwethaf.

Am y tro cyntaf, mae ymchwilwyr wedi gallu nodi pam fod hyn yn digwydd, ac mae'r ateb i'w ganfod ym mhell allan yn y môr yng nghefnfor Gogledd yr Iwerydd.

sediment recovery
Recovery of sediments from the North Atlantic. Credit: Antonia Doncilla.

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd wedi astudio gweddillion ffosil o blancton â chregyn a grawn a gladdwyd mewn gwaddodion o'r Cefnfor i ganfod sut roedd amgylchiadau'r cefnfor dros gyfnodau o 10-20 mlynedd yn ystod y 3000 mlynedd ddiwethaf.

Gan ysgrifennu yn y cyfnodolyn Nature Communications, canfu'r ymchwilwyr fod dyfroedd rhewllyd o'r Arctig yn llifo mewn cyfnodau oer i’r de i Fôr Labrador yng Ngogledd yr Iwerydd, gan newid patrymau cylchredeg y cefnfor a thrwy hynny o bosibl arafu'r ceryntau sy'n cludo gwres i Ewrop.

"Gall dŵr y môr ddal mwy o wres na'r awyr, felly gall weithredu fel gwresogydd storio mawr. O ganlyniad, gall cefnforoedd storio a chludo llawer iawn o wres ac felly maen nhw'n allweddol ar gyfer addasu ein hinsawdd. Yn ddiddorol, rydym ni'n gweld newidiadau yng nghylchrediad a dosbarthiad dyfroedd yng Ngogledd yr Iwerydd a fyddai wedi effeithio ar gludo gwres i Ewrop,"

Gan ddefnyddio data a geir mewn cregyn plancton ffosil bach a grawn gwaddolion, roedd yr ymchwilwyr yn gallu creu cofnod o amodau'r cefnfor yn y gorffennol a chysylltu hyn gyda chofnodion hanesyddol oedd yn dangos bod hinsawdd Ewrop ar gyfartaledd yn gynhesach neu'n oerach.

Er enghraifft, roedd yr ymchwilwyr yn gallu cysylltu cyfnod pan arafodd ceryntau gogledd yr Iwerydd gyda chyfnod nodedig o oer, a elwir yn aml yr Oes Iâ Fach, a amgylchynodd Ewrop rhwng 1300 ac o ddeutu 1850. Cafodd gaeafau oer estynedig eu darlunio mewn peintiadau Ewropeaidd yn y cyfnod, fel y darlun enwog o sglefrwyr iâ ar afon Tafwys yn Llundain.

seafloor sediment fossil
Microfossils from marine sediments Credit: Hannes Grobe/AWI

Yn yr un modd, canfu ymchwilwyr gyfnod arall pan arafodd ceryntau gogledd yr Iwerydd ar yr un pryd â chyfnod eithriadol o oer yn y chweched ganrif, a olygodd bod cnydau'n methu a chafwyd newyn ledled y byd. Credir hefyd bod canlyniadau'r cyfnod oer hwn o bosibl wedi cyfrannu at ledaenu Pla Iwstinian - un o'r pandemigau mwyaf marwol yn hanes y ddynoliaeth yr amcangyfrifir iddo ladd rhwng 25 a 30 miliwn o bobl ar draws y byd.

Ian Hall

"Mae ein hastudiaeth yn dangos pwysigrwydd y cefnfor i'n hinsawdd a sut mae hyn yn naturiol wedi amrywio yn y gorffennol pan nad oedd mesuriadau o'r cefnfor ar gael. Rydym ni wedi gallu cysylltu ein canlyniadau â chofnodion hanesyddol a chynnig esboniad am rai o'r effeithiau sylweddol mae'r hinsawdd wedi'u cael ar boblogaeth Ewrop,"

Yr Athro Ian Hall, Pennaeth yr Ysgol ac Athro Ymchwil

"Yn ddiweddar, oherwydd bod yr hinsawdd yn gynhesach dan ddylanwad dynol, mae'r Iwerydd yn derbyn mwy o ddŵr croyw nag o iâ sy'n toddi yn yr Arctig, sydd yn ei dro'n effeithio ar symudiad y dŵr yng ngogledd yr Iwerydd. Mae'n debygol y bydd newidiadau yng nghylchrediad y cefnfor yn y dyfodol yn cael eu teimlo o fewn patrwm newid hinsawdd yn Ewrop."

Rhannu’r stori hon

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalennau gwe'r Ysgol.