Ewch i’r prif gynnwys

Dull gwell o frwydro yn erbyn canser ym maes peirianneg celloedd-T

17 Tachwedd 2017

Artist's impression of T-cells attacking cancer

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi canfod ffordd o hybu gallu celloedd-T y system imiwnedd i ddinistrio celloedd canser, gan gynnig gobaith newydd yn y frwydr yn erbyn ystod eang o ganserau.

Gan ddefnyddio CRISPR i olygu genomau, aeth y tîm gam ymhellach wrth ddefnyddio peirianneg enetig ar gyfer celloedd-T, drwy gael gwared ar eu derbynyddion penodol nad ydynt yn adnabod celloedd canser, a'u disodli gyda rhai a fyddai'n adnabod y celloedd hynny a’u dinistrio.

Yn ôl Dr Mateusz Legut o Brifysgol Caerdydd, a arweiniodd yr astudiaeth wrth gynnal ymchwil – a ariannwyd gan Ymchwil Canser y DU – yn labordy’r Athro Andrew Sewell: “Hyd yn hyn, roedd gan gelloedd-T y defnyddiwyd peirianneg eneteg arnynt i’w galluogi i frwydro yn erbyn canser, ddau fath o dderbynyddion – un therapiwtig a ychwanegwyd yn y labordy, a’r un oedd yn bodoli’n naturiol ynddynt eisoes. Gan fod ‘lle’ yn brin mewn cell ar gyfer derbynyddion, mae’n rhaid i’r rhai sy’n benodol ar gyfer brwydro canser gystadlu gyda derbynyddion y gell ei hun, i roi eu swyddogaeth ar waith. Yn amlach na pheidio, derbynyddion y gell ei hun yw enillwyr y gystadleuaeth honno, a phrin iawn yw’r ‘lle’ a adewir ar gyfer y derbynyddion newydd a gyflwynir i frwydro canser. O ganlyniad, nid yw’r dechnoleg bresennol yn gwireddu ei photensial llawn i ddinistrio canser.

“Yn y celloedd-T a grëwyd gennym drwy gyfrwng dull golygu genom, nid oes unrhyw un o’u derbynyddion celloedd-T eu hunain ar ôl ynddynt, ac felly’r unig dderbynnydd y gallant eu defnyddio yw’r un sy’n benodol ar gyfer brwydro canser. O ganlyniad, gall y celloedd hyn fod fil gwaith yn well wrth weld a lladd canser na’r celloedd a baratowyd gan ddefnyddio'r dull presennol.”

Mae celloedd-T yn rhan o'r system imiwnedd sydd fel arfer yn ein helpu i frwydro yn erbyn heintiau bacteriol a firaol, fel feirws y ffliw. Yn ogystal, mae gan rai celloedd-T y gallu i ymosod ar gelloedd canser. Mae cynyddu a harneisio gweithgarwch gwrth-ganser celloedd-T y corff ei hun wedi arwain at datblygu imiwnotherapïau – fel y'i gelwir – sydd bellach yn trawsnewid maes triniaeth canser ac hyd yn oed yn cynnig gobaith i gleifion sydd wrth gam terfynol y clefyd.

Artist's impression of DNA

Ym marn y tîm, o fewn amser bydd gwelliannau newydd mewn technoleg golygu genynnau yn peri chwyldro ym maes imiwnotherapi canser, gan wneud y triniaethau – na welwyd mo’u tebyg o’r blaen, o ran eu heffeithlonrwydd – yn gymwys ar gyfer carfan ehangach o gleifion sy’n dioddef o wahanol mathau o’r clefyd.

"Mae yna welliant rhyfeddol yn sensitifrwydd y dulliau adnabod canser y gellir eu cyflawni, drwy olygu’r derbynnydd sy’n bodoli’n naturiol er mwyn cael gwared ohono, a’i ddisodli gan un sy’n gweld celloedd canser. Yn ôl pob tebyg, bydd dulliau clinigol yn gwneud defnydd o’r cynnydd hwn yn y dyfodol."

Yr Athro Andrew Sewell Professor

Ychwanegodd Yr Athro Oliver Ottmann, Pennaeth Haematoleg ym Mhrifysgol Caerdydd a chyd-arweinydd Canolfan Meddygaeth Canser Arbrofol Caerdydd (ECMC), sydd hefyd yn gyd-awdur ar yr astudiaeth: “Mae imiwnotherapi – y dull o harneisio celloedd heintrydd y corff ei hun – wedi tyfu i fod y driniaeth gryfaf a mwyaf addawol ar gyfer ystod o ganserau, ac yn un o’r adegau mwyaf cofiadwy o dorri tir newydd ym maes trin canser.

“Rwyf o’r farn y bydd ein dull gwell o greu celloedd-T yn benodol ar gyfer brwydro yn erbyn canser yn llywio cenhedlaeth newydd o dreialon clinigol, ac y caiff ei ddefnyddio gan ymchwilwyr mewn labordai i ddarganfod derbynyddion celloedd-T newydd sy’n benodol ar gyfer brwydro canser, a thargedau newydd ar gyfer therapi canser.”

Cafodd yr ymchwil ei chynnal mewn labordy ac nid yw wedi bod yn destun treialon clinigol hyd yma. Ymchwil Canser y DU a Wellcome wnaeth ariannu’r fenter.

Mae’r papur ‘CRISPR-mediated TCR replacement generates superior anticancer transgenic T-cells’ wedi’i gyhoeddi yng nghyfnodolyn Blood.

Rhannu’r stori hon

Our systems biology-based research informs the development of novel diagnostics, therapies and vaccines against some of the greatest public health threats of our time.