Ewch i’r prif gynnwys

Brain Bee Cymru

Aine Moylett arddangsofa myfyrwyr
Aine Moylett yn arddangos i fyfyrwyr yn ystod sesiwn ymarferol labordy.

Brain Bee Cymru yn ddigwyddiad blynyddol sy’n seiliedig ar y Brain Bee Rhyngwladol, cystadleuaeth niwrowyddoniaeth ddielw a ariennir gan Dr. Norbert Myslinski.

Nod y Brain Bee yw cymell pobl ifanc i ddysgu mwy am yr ymennydd na’r hyn sy’n gyffredin o fewn cwricwlwm Bioleg Safon Uwch ac i'w hysbrydoli i ystyried gyrfa mewn niwrowyddoniaeth.

Mae Brain Bee Cymru yn cynnwys cymysgedd o waith labordy ymarferol, clipiau fideo ac ymarferion ysgrifenedig a fydd yn annog myfyrwyr i ddysgu mwy am un o strwythurau mwyaf cymhleth y bydysawd – yr ymennydd dynol.

Bob blwyddyn, mae timau o hyd at 10 o fyfyrwyr o nifer o ysgolion a cholegau yn cystadlu mewn cyfres o heriau a phrofion ysgrifenedig amlddewis. Bydd yr ysgol neu'r coleg â’r sgôr uchaf yn derbyn tarian Brain Bee Cymru, gyda gwobrau o dalebau gwerth £50, £25 a £10 i fyfyrwyr safle 1af, 2il a 3ydd.

Cymryd rhan

I drafod sut y gall eich ysgol ddod yn rhan o Brain Bee Cymru cysylltwch â:

Ymchwiliadau cyffredinol