Ewch i’r prif gynnwys

Yn cyflwyno Rhaglen Llwybr Addysg Gymunedol a Gwledig (CARER)

Community settings in Mid and North Wales.
The CARER programme gives our students the invaluable experience of working closely with clinicians and patients in community settings in Mid and North Wales.

Gan fod prinder difrifol meddygon yng Nghymru i ateb galw cynyddol cleifion o ganlyniad i dwf y boblogaeth a’r ffaith bod mwy a mwy o hen bobl ynddi, rydyn ni’n cydweithio â dwy brifysgol arall i gynnal cynllun arbrofol ar gyfer denu meddygon ifanc i’r gogledd a’r canolbarth.

Rydyn ni’n cynnal rhaglen CARER (Llwybr Addysg Gymunedol a Gwledig) ar y cyd â Phrifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth i roi cyfle i’n myfyrwyr meddygol dreulio blwyddyn o’u haddysg mewn meddygfeydd yn y gogledd a’r canolbarth fel y byddan nhw’n cael profiad gwerthfawr o gydweithio’n agos â chlinigwyr a chleifion mewn amryw gymunedau.

Bydd y cynllun newydd yn dilyn arfer bresennol y Brifysgol, sef gofalu bod cyfleoedd i’w myfyrwyr meddygol dreulio cyfnodau ledled y wlad mewn amrywiaeth helaeth o ganolfannau a meysydd. Dechreuodd y 12 myfyriwr cyntaf gymryd rhan yn y rhaglen fis Medi 2018. Byddan nhw’n cwblhau eu trydedd flwyddyn yn y lleoedd hynny cyn dychwelyd i Gaerdydd i orffen eu cyrsiau gradd.

Yn ystod y flwyddyn honno (eu Clerciaeth Gyfun Hydredol neu LIC), bydd y myfyrwyr yn astudio ar gyfer yr un deilliannau addysgol â’u cyfoedion yng Nghaerdydd, trwy’r un cwrícwlwm arloesol, o dan adain tîm bychan o arbenigwyr.

Dyma’r rhaglen gyntaf o’i bath yng Nghymru a dim ond i fyfyrwyr meddygol y drydedd flwyddyn mae ar gael ar hyn o bryd. Mae sefydliadau addysgol ledled y byd yn cynnal rhaglenni tebyg ers dros 15 mlynedd bellach. Mae nifer o ddeilliannau buddiol wedi’u nodi yn y rhaglenni hynny - e.e. mae’r myfyrwyr yn deall anghenion y cleifion yn well, mae’u medrau cyfathrebu yn well ac mae’u perthynas â’r cleifion, eu cyd-fyfyrwyr a phroffesiynolion iechyd yn gryfach.

Trwy ymgynghori cyfochrog (gweld claf cyn trafod ei achos gyda chlinigwyr), mae modd gofalu bod pawb yn ymwneud â’r broses ac yn gallu meithrin medrau diagnostig cryf yn gyflymach o lawer. Trwy ddilyn claf i’r ysbyty, ceir darlun unigryw o’i brofiad yng ngofal y GIG, hefyd. Bydd myfyrwyr yn elwa trwy weithio mewn timau meddygol datblygedig, cwbl weithredol. At hynny, bydd y profiad unigryw o fyw mewn cymuned wledig am flwyddyn.

Mae modd dilyn taith y myfyrwyr (dysgu medrau clinigol, archwilio cleifion, dringo mynyddoedd, rhedeg 50km ac ati) trwy blogs.caerdydd.ac.uk/CARER. Mae rhai myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn yr arbrawf yn rhannu eu profiadau.

Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 30 o ReMEDy.

Darllenwch yr erthygl lawn

ReMEDy Rhifyn 30

Cymerwch gip i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.