Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Nyrs a ffisiotherapydd yn sgwrsio
Mae'n harbenigedd yn cwmpasu ystod eang o ddisgyblaethau proffesiynol.

Rydym yn ddeinamig, yn arloesol, yn edrych tua'r dyfodol ac yn cael ein cydnabod am ein rhagoriaeth o ran dysgu, addysgu ac ymchwil.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gwybodaeth effeithiol ym maes gofal iechyd sy'n gwella canlyniadau iechyd a gofal iechyd ar gyfer cleifion a'u teuluoedd yn uniongyrchol.

Mae ein gweithgareddau yn cynnwys ystod eang o wyddorau gofal iechyd gan gynnwys: Ffotograffiaeth Glinigol, Bydwreigiaeth, Nyrsio (Oedolion, Plant a Iechyd Meddwl), Therapi Galwedigaethol, Ffisiotherapi, Ymarfer Amdriniaethol a Radiograffeg (diagnostig a therapiwtig).

Rydym yn ymfalchïo mewn ymchwil ac ysgolheictod o'r ansawdd uchaf, ac rydym yn un o'r adrannau mwyaf blaenllaw o ran ymchwil ym maes gofal iechyd yn y DU. Rydym yn ganolfan ragoriaeth sy'n cynhyrchu ymchwil sy'n cael ei ganmol yn rhyngwladol, yn cael ei oleuo gan theori ac yn hynod drwyadl. Mae ein hymchwil ar flaen y gad o ran dadleuon gofal iechyd a pholisi ar lefel ryngwladol, genedlaethol a lleol.

Mae ein natur amlddisgyblaethol unigryw yn rhoi profiad cyflawn i'n myfyrwyr, gan sicrhau eu bod yn dod yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol medrus, gwybodus a thosturiol sydd wedi ymrwymo i ethos o ofal ar sail tystiolaeth.