Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect Barddoniaeth Myrddin – pa drysorau sydd wedi’u darganfod?

Efallai eich bod wedi clywed am chwedl y Merlin Arthuraidd ond oeddech chi'n gwybod bod ganddo farddoniaeth a briodolir iddo?

Mae Prosiect Barddoniaeth Myrddin yn astudio’r farddoniaeth Gymraeg a briodolir i’r bardd chwedlonol Myrddin cyn 1800.

Mae Dr Llewelyn Hopwood yn Gydymaith Ymchwil yn yr ysgol ac yn un o’r rhai sy’n gweithio ar Brosiect Barddoniaeth Myrddin. Mae’r prosiect yn waith ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth a phen llanw’r prosiect fydd gwefan yn cynnwys yr holl olygiadau, yn ogystal ag adnoddau ymchwil ac addysgu pellach.

Er bod y prosiect yn edrych ar ddatblygiad y ffigur dros y canrifoedd, a pherthynas y cerddi Cymraeg â’r traddodiad Arthuraidd ehangach, caiff y gwaith dydd-i-ddydd ei rannu rhwng golygu a dadansoddi’r farddoniaeth gynnar, a wnaed gan Dr Ben Guy am y 18 mis cyntaf, cyn trosglwyddo’r gwaith i Dr Hopwood, a’r farddoniaeth ddiweddarach, a wneir gan Dr Jenny Day.

Delwedd o ddyn wrth ymyl hen destun Cymraeg.
‘Merlinus’ yng Nghronicl Nuremberg (1493, Yr Almaen) (Prifysgol Caergrawnt: Nuremberg Chronicle (Inc.0.A.7.2[888]), fol. 138r). Wrth olygu’r cerddi Cymraeg, mae tîm y Prosiect hefyd yn ceisio deall mwy am y berthynas rhwng y Myrddin Cymraeg a’r Merlin/Merlinus mewn testunau Lladin a Saesneg.

Gyda’r prosiect bellach wedi cyrraedd hanner ffordd trwy ei gyfnod ymchwil tair blynedd, mae Dr Hopwood yn sôn isod am ambell drysor sydd wedi dod i glawr ac yn rhoi cipolwg ar yr hyn mae’r ymchwilwyr, sy’n cynnwys Dr Dylan Foster Evans a Dr David Callander o Ysgol y Gymraeg a’r Athro Ann Parry Owen o’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth, wedi ei ddysgu am y ffigur dirgel a dewiniol hwn hyd yn hyn.

"Mae’r cerddi cynnar yn enwog o fewn y maes, ond gan mai dyma’r tro cyntaf i nifer ohonynt gael eu golygu, mae Dr Ben Guy wedi gwneud sawl darganfyddiad testunol pwysig wrth iddo gymharu holl gopïau’r cerddi, nid y copïau a geir yn y llawysgrifau enwog yn unig. Profwyd, er enghraifft, nad yw Llyfr Du Caerfyrddin yn cadw testun llawn cerdd enwog ‘Yr Afallennau’: dim ond detholion sydd yno.

Delwedd o hen lawysgrif Gymraeg.
'Yr Afallennau’ yn Llyfr Du Caerfyrddin (Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llsgr. Peniarth 1, fol. 24v).

"Mae’r un yn wir am y gerdd ‘Gwasgargerdd Fyrddin’. Rydym nawr yn deall bod diwedd y gerdd wedi ei chadw mewn llawysgrifau diweddarach, ond nid yn Llyfr Gwyn Rhydderch na Llyfr Coch Hergest. Dyma ddarganfyddiad cyffrous gan fod y diweddglo yn hynod ddifyr wrth iddo feirniadu sefydlu abaty Sistersaidd Ystrad Fflur a rhoi manylion am ymosodiadau’r Llychlynwyr ar hen fynachlog Llandudoch yn 988.

Delwedd o hen lawysgrif Gymraeg.
Dechrau’r gerdd ‘Gwasgargerdd Fyrddin’ yng nghopi Peniarth 50 (‘Y Cwta Cyfarwydd’)

"Cerdd arall a ystyrid yn gampwaith llenyddiaeth Gymraeg ganoloesol er nad oeddem yn siŵr o’i statws fel cyfanwaith oedd ‘Cyfoesi Myrddin a Gwenddydd ei Chwaer’. Bellach, diolch i’r gwaith golygu, rydym yn sicr fod y gerdd yn gyfansoddiad unedig a chydlynol: cerdd sy’n canoli’r berthynas rhwng Myrddin a’i chwaer Gwenddydd a rhwng themâu marwolaeth a diwedd y byd mewn ffordd nad oedd yn hysbys o'r blaen.

"Ceir darganfyddiadau thematig yn ogystal â thestunol yng ngwaith ymchwil Dr Jenny Day ar y cerddi diweddarach. Yno, mae wedi dod i’r amlwg bod Myrddin yn ffigur hyblyg tu hwnt, fel y gwelir yn yr enghreifftiau lle priodolir cerdd ddarogan i nifer o feirdd gwahanol wrth fynd o un llawysgrif i’r llall.

"Mewn un achos (‘Mi a’th ofynnaf Ferddin’), ceir ymddiddan rhwng Myrddin a bardd cynnar arall o’r enw Culfardd yn y llawysgrif hynaf, ond mewn fersiynau diweddarach ceir ymddiddan gan Fyrddin a ‘Cwsg-fardd’ (y Bardd Cwsg), gan Daliesin a ‘Bardd Adda’ (Adda Fras), a chan Daliesin a Myrddin.

"Yn ogystal â bod yn hyblyg, mae Myrddin hefyd yn fardd cyfrinachol. Cawn ddarlun cryf o’i bersona enigmatig mewn cerdd ymddiddan a gofnodir yng Nghronicl Elis Gruffydd lle dywed Myrddin: Myfi a wn y dydd a fydd, / ac eto ni ddatgelaf i y dydd a fydd (‘I know the appointed day that shall come, / and yet I will not make known the day that shall come’).

"Ymhellach, gwyddwn nawr y bu beirdd y cerddi hyn yn hoff o adeiladu dirgelwch Myrddin mewn i wneuthuriad y testun ei hun, gan gynnwys gyda chyfeiriadau astrus sydd fel cliwiau croesair cryptig.

"Mewn cerdd o gyfnod Rhyfeloedd y Rhosynnau sonnir am y goron yn mynd i’r ‘bryn cyfoethog’ ond nid lleoliad oedd hwn ond person: Harri Tudur, iarll Richmond sydd yma, gydag elfennau ‘Richmond’ (‘rich’ a ‘mound’) wedi eu trosi i’r Gymraeg: ‘bryn cyfoethog’.

"Bydd y gwaith yn parhau dros y 18 mis nesaf gan ddisgwyl mwy o ddarganfyddiadau eang fel yr uchod yn ogystal â rhai manwl, fel y llond llaw o eiriau heb yr un enghraifft arall o’u defnydd sydd wedi dod i’r wyneb (‘hapax legomena’): geiriau megis piborig (‘fel pibydd’) a cehydrawl (‘o’r un cryfder’)."

Pobl