Ewch i’r prif gynnwys

Sut i ddod o hyd i ni

Cardiff Medicentre
Mae Medicentre Caerdydd ar gampws Parc y Mynydd Bychan yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Ym Medicentre Caerdydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Athrofa Therapïau Lleiaf Ymyrrol Cymru
Medicentre Caerdydd
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4UJ

WIMAT - Cardiff Medicentre

Athrofa Therapïau Lleiaf Ymyrrol Cymru (WIMAT)

Rydym mewn lle hwylus i fanteisio ar y ffyrdd, trenau a’r maes awyr sy’n gwasanaethu de Cymru. Hefyd, mae Bws Caerdydd a’r gwasanaeth Parcio a Theithio yn gwasanaethu safle Parc y Mynydd Bychan yn dda iawn. Mae cael tacsi’n hawdd a gellir eu harchebu drwom ni ar gyfer ymwelwyr sy’n dychwelyd.

Parcio

Sylwer: ni ellir parcio yn y Medicentre ei hun Mae lleoedd parcio ar gael yn rhad ac am ddim ar gyfer ymwelwyr, o fewn pellter cerdded ar safle'r Ysbyty Athrofaol yn y parthau a ddynodwyd ar gyfer 'cleifion ac ymwelwyr'.

Noder y gall ymwelwyr barcio ar y safle am hyd at wyth awr. Gan fod y rhan helaeth o’n cyrsiau’n gofyn am fwy nag wyth awr, rydym yn annog y rhai sy’n teithio gyda char i ddefnyddio’r gwasanaeth Parcio a Theithio sy’n rhad ac am ddim, neu gludiant cyhoeddus os ydych yn lletya’n lleol, er mwyn peidio â chael unrhyw hysbysiadau parcio.

Gweler gwybodaeth bellach am barcio ar y safle a mapiau. Gweler hefyd y Cwestiynau Cyffredin ynghylch parcio.

Hedfan

Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yw’r maes awyr agosaf. Mae gwasanaethau bws rheolaidd yn cysylltu’r maes awyr hwn â chanol dinas Caerdydd. Hefyd, mae tacsis ar gael ar gyfer cludiant uniongyrchol i Medicentre Caerdydd.

Ar fws

Mae bysiau’n teithio’n gyson rhwng canol y ddinas a Phrifysgol Athrofaol Cymru. Gweler Cardiff Bus am ragor o wybodaeth.

Ar drên

Caerdydd Canolog yw’r brif orsaf agosaf, tua ugain munud o Medicentre Caerdydd. Rydym yn argymell i chi cymryd naill ai dacsi neu fws i Medicentre Caerdydd o Gaerdydd Canolog. Mae gorsaf leol gerllaw, Lefel Uchaf y Mynydd Bychan, tua chwarter awr i fwrdd ar droed. Fodd bynnag, mae hyn yn cynnwys newid yng Nghaerdydd Canolog ac nid yw trenau’n mynd yn rheolaidd bob amser.

Llety

Rydym yn cynnig amrywiaeth o lety sy'n addas ar gyfer eich anghenion, p'un a ydych yn ymweld â Chaerdydd at ddibenion hamdden neu fusnes, neu a ydych yn aelod academaidd o staff sy'n gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gweler yr opsiynau am lety.