Adeilad y Gyfraith
Rhodfa'r Amgueddfa
Caerdydd
CF10 3AX
Mae yna fynedfa wastad at Adeilad y Gyfraith o Barc y Plas ac mae mynediad drwy Faes yr Amgueddfa drwy oleddf gyda chanllaw neu 5 step gyda chanllaw ar yr ochr chwith.
Mae gan y dderbynfa gylchwifren ar gyfer pobl gyda nam ar y clyw. Mae’r lifft yn mynd at bob llawr, gyda sedd ynddi ar gyfer pobl gyda nam symudedd, drych ar y cefn, mae’r lefelau yn cael eu nodi mewn modd clywedol a gweledol.
Mae yna ciwbiclau hygyrch yn doiledau dynion a menywod (0.23) ar y llawr gwaelod. Mae yna doiled hygyrch neillryw ar y llawr cyntaf (1.25A), sydd yn agos i’r lifft.
Parcio
Mae parcio ar gael ar hyd stryd Plas y Parc a Rhodfa’r Amgueddfa, lle gall deiliaid bathodyn glas barcio am ddim.
Parcio ar gyfer beiciau
Mae yna 62 lle parcio beic a rannir rhwng tri lleoliad o amgylch yr adeilad.
Parcio Car
Dewiswch adeilad o'r rhestr i ddod o hyd iddo ar y map.