Neuadd Senghennydd
Ar gyfer: israddedigion
Neuadd breswyl fach sy’n arlwyo’n rhannol ac sy’n agos iawn i Ganol y Ddinas a champws Parc Cathays.
Trosolwg
Mae Neuadd Senghennydd yn breswylfa sy’n arlwyo’n rhannol ac wedi ei lleoli o fewn pellter i gampws Parc Cathays ac yn gyfleus i fyfyrwyr sy’n astudio Mathemateg, Ffiseg a Seryddiaeth, Peirianneg neu Gyfrifiadureg.
Mae’r gwasanaeth prydau gyda’r nos yn rhoi pryd poeth i fyfyrwyr o ddydd Llun i ddydd Gwener ac eithrio yn ystod gwyliau. Fel arfer, mae prydau’n cael eu gweini yn ystod 16:30 a 19:30 Dydd Llun i Ddydd Iau a 16:30 a 18:30 ar Ddydd Gwener ym mwyty Trevithick yn Adeiladau’r Frenhines.
Gwnes i fwynhau'r agweddau cymdeithasol o aros yn Neuadd Senghennydd. Mae’n le gwych i wneud ffrindiau oes ac yn ffordd o bontio rhwng byw gartref a byw ar ben eich hun. Roedd hi’n help bod pawb arall yn yr un sefyllfa, ac o ganlyniad mor gyfeillgar ac yn awyddus i wneud ffrindiau newydd.
Pellter i gampysau
Prif Adeilad | Campws Parc y Mynydd Bychan | |
---|---|---|
Pellter | 0.5 milltir | 1.75 milltir |
Cerdded | 10 munud | 35 munud |
Beicio | 5 munud | 17 munud |
Bws | n/a |
Plas y Parc, Bws Caerdydd 95 |
Nodwch: darparwyd yr amseroedd uchod fel canllaw yn unig.
Agosaf
Siop | Heol Salisbury |
---|---|
Archfarchnad | Canol y ddinas (Sainsburys) |
Bwyd cyflym | Canol y ddinas |
Bar | Undeb y Myfyrwyr |
Cyfleusterau chwaraeon | Canolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol Prifysgol Caerdydd
Gweld holl gyfleusterau chwaraeon y Brifysgol |
Golchdy | Llys Senghennydd |
- Wedi’i arlwyo’n rhannol (Darperir pryd min nos rhwng 16:30 a 19:30 ddydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 16:30 a 18:30 ar ddydd Gwener ym Mwyty Trevithick)
Noder: ni ddarperir prydau bwyd yn ystod y gwyliau nac ar wyliau banc - Ensuite
- Cegin/ardal fwyta a rannir
- Fflatiau i 6-11 o fyfyrwyr
- Pwynt cysylltu â rhwydwaith a mynediad di-wifr
- Sied feiciau
- Dewis byw’n dawel i israddedigion (fflatiau/tai a rannir gyda myfyrwyr arall sydd wedi nodi diddordeb mewn amgylchedd byw’n dawel)
- 3 ystafell gyda larwm sy’n fflachio a chlustog ddirgrynol, yn addas ar gyfer rheiny gyda nam ar y clyw
Cyplau
- 1x ystafell gyda gwely/lle eistedd/ardal cegin ac ystafell ymolchi (hunanarlwyo)
Mae disgwyl i gyplau/teuluoedd i edrych am lety arall ar gyfer blynyddoedd ar ôl hynny, ni allwn ymestyn cyfnod preswyl tu hwnt i’r flwyddyn gyntaf.
Sesiwn 2018/2019 (Bydd y prisiau ar gyfer 2019/2020 ar gael o fis Mai 2019 ymlaen)
Cyfnod Preswyl Safonol (Mis Medi i fis Mehefin)
Math | Cyfanswm | Rhandaliadau | Nodiadau |
---|---|---|---|
Ensuite arlwyo’n rhannol | £5411.87 | (2 X £1803.96 a 1 X £11803.95) | |
Llety un ystafell hunan arlwyo | £5536.53 | (3 X £1845.51) |
Joanne Hooper
Rheolwr Llety Cynorthwyol
- Telephone:
- +44 (0)29 2087 4864
Rhian Watkins
Uwch Reolwr Llety Cynorthwyol
- Telephone:
- +44 (0)29 2087 4865
Debra Jones
Rheolwr Preswylfeydd
- Telephone:
- +44 (0)29 2087 4863
Rhestr o’r preswylfeydd
Ffeithiau sydyn
Myfyrwyr | 103 |
---|---|
Arlwyaeth | Arlwyo rhannol |
Math |
En-suite Stiwdio |
Cyfnodau preswyl | Safonol |
Mannau parcio | 0 |
Ystafelloedd ar gael ar gyfer
Cysylltiadau
Neuadd Senghennydd
Ffordd Senghennydd
Cathays
Caerdydd
CF24 4AG
+44 (0)29 2087 5709