Golwg ar Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch
Sefydlwyd y Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch (CSRI) yn 2015. Mae’n cyfuno arbenigedd tri grŵp ymchwil blaenllaw, Sefydliad y Prifysgolion ar Wyddorau’r Heddlu, Peirianneg Data a Gwybodaeth a’r Grŵp Ymchwilio i Drais yn ogystal â chymuned gynyddol o bartneriaid academaidd arloesol ac aml-ddisgyblaethol. Diben y Sefydliad yw datblygu syniadau, tystiolaeth a gwybodaeth newydd am broblemau troseddau a diogelwch lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Ers ei sefydlu, mae’r Sefydliad Ymchwil wedi cael dros £1.5m o gyllid allanol. Mae'n gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid allanol gan gynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru, IBM, Gwasanaeth yr Heddlu Metropolitan, Arolygiaeth Cwnstabliaeth ei Mawrhydi, a‘r Coleg Plismona.
Cyfathrebu ffynhonnell agored a dadansoddi data mawr
Un o lwyddiannau cynnar y Sefydliad oedd sefydlu’r Ganolfan Datblygu Ymchwil am Ddadansoddi Cyfathrebiadau o Ffynonellau Agored (OSCAR), dan arweiniad yr Athro Martin Innes. Mae’n edrych ar sut mae data mawr a’r cyfryngau cymdeithasol yn gweddnewid plismona, cudd-wybodaeth a gwaith ymgysylltu, o blismona’n lleol i ddiogelwch cenedlaethol.
Caiff y materion hyn eu hymchwilio drwy berthynas strategol rhwng y Brifysgol, Swyddogaethau Rheolaeth Gwrthderfysgaeth Genedlaethol yr heddlu, a’r heddlu o bum rhanbarth yn y wlad.
O ganlyniad i gyfathrebiadau ffynhonnell agored, mae’r cyhoedd yn gofyn am fwy a atebolrwydd a thryloywder gan yr heddlu. Ariennir y Ganolfan gan y Swyddfa Gartref, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE) a’r Coleg Plismona, a’i nod yw helpu i ddatblygu methodolegau, technolegau a phersbectifau ffynhonnell agored. Bydd y rhain yn llunio dyfodol plismona.

Mae heriau sy’n ymwneud â thrais a diogelwch yn trawsnewid, ac mae angen newid sut rydym yn archwilio’r problemau hyn hefyd. Mae angen datblygu cysyniadau, methodolegau a dulliau gweithredu newydd.
Mae OSCAR eisoes wedi cael cryn effaith. Wrth drafod y rhaglen, dywedodd arweinydd cenedlaethol plismona ar gyfer cudd-wybodaeth ffynhonnell agored ym maes gwrthderfysgaeth: “Un o’r darnau pwysicaf o waith oeddadolygu’r ffyrdd o weithio gydag ymarferwyr ffynhonnell agored. Wrth adolygu hyn, rydym wedi gwella ein
rhaglenni hyfforddi a newid sut rydym yn meddwl am gyflogi staff... Mae OSCAR wedi arbed llawer o arian i drethdalwyr, gan helpu yn y meysydd hyn.”
Gan ddefnyddio meddalwedd dadansoddi data arloesol OSCAR, sef SENTINEL, mae ymchwilwyr o’r Sefydliad Ymchwil yn gweithio i ddatblygu golwg newydd ar sut y mae ‘ffeithiau meddal’ yn cael eu cylchredeg, ac yn datblygu tystiolaeth newydd ar hyn. Caiff y ‘ffeithiau meddal’ eu troi’n newyddion ffug, sibrydion a chynllwynion, maent yn newid canfyddiad y cyhoedd a’u dealltwriaeth.
Mae gwaith ymchwil penodol ar y broblem hon wedi’i gynorthwyo gan brosiect a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ar oblygiadau cymdeithasol a materion diogelwch yn dilyn Brexit. Mae prosiect Ffeithiau Meddal, Cyfryngau Cymdeithasol, Diogelwch a Brexit yn ceisio archwilio achosion a chanlyniadau’r cynnydd o ddefnyddio ffeithiau meddal, a’u lledaeniad.
Mae’r rhain yn seiliedig ar dri math gwahanol o ddigwyddiadau dros bedwar categori, ac maent yn gallu cael goblygiadau pwysig ar densiynau cymunedol a chydlyniant cymdeithasol.
Lleihau troseddau treisgar
Datblygwyd Model Caerdydd yn dilyn gwaith ymchwil gan gyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil, yr Athro Jonathan Shepherd, a’r Grŵp Ymchwilio i Drais. Mae’n ffordd newydd sbon o atal trais lle rhennir data o ysbytai gyda'r heddlu ac awdurdodau lleol. Mae derbynyddion mewn adrannau achosion brys yn cofnodi gwybodaeth, gan gynnwys lleoliad a’r arf a ddefnyddiwyd gan bobl a anafwyd mewn trais. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei gwneud yn ddienw ac fe’i chyfunir a data’r heddlu i lywio strategaethau a thactegau atal trais.
Defnyddia iechyd cyhoeddus ddull gyda’r nod o leihau trais drwy waith ymchwil ac mae hyn wedi arwain at ddefnyddio data mewn ffyrdd newydd, a phartneriaethau newydd rhwng meysydd meddygaeth a chyfiawnder troseddol. Mae’r model yn cael ei ail-greu mewn sawl gwlad, gan gynnwys UDA, Awstralia a'r Iseldiroedd.
Mae’r model llwyddiannus wedi cael grant gwerth £740,000 ($1.4m o ddoleri Awstralia) i geisio gostwng lefelau troseddu treisgar drwy ddefnyddio data o adrannau damweiniau ac argyfwng mewn sawl dinas yn Awstralia, gan gynnwys Melbourne, Sydney a Chanberra.
Mae prosiect Gwerthuso Dargyfeirio Mynediadau sy’n ymwneud ag Alcohol (EDARA) dan arweiniad yr Athro Simon Moore o’r Grŵp Ymchwil i Drais, yn gwerthuso effeithiolrwydd, pa mor gosteffeithiolrwydd, effeithlonrwydd a derbynioldeb y Gwasanaethau Rheoli Alcohol (AIMS) wrth reoli faint o bobl sy’n mynd i’r adrannau brys oherwydd alcohol.
Bwriad AIMS yw derbyn, trin a monitro cleifion meddw a fyddai’n mynd i’r adrannau brys fel arfer a lleihau’r pwysau sydd arnynt o ran y gofal a ddarperir. Maent yn cynnig ffordd a allai liniaru rhywfaint o'r pwysau ar adrannau achosion brys yn ogystal â gwasanaethau ambiwlans a'r heddlu ar adegau pan mai cynnydd cyson yn y galw.
Darllenwch yr erthygl llawn
Fersiwn fyrrach yw hon o'r cyfweliad llawn a oedd yn rhifyn haf 2017 o Herio Caerdydd, ein cylchgrawn ymchwil.

Welsh - Challenge Cardiff Summer 2017
Chweched rhifyn ein cylchgrawn ymchwil, sy’n rhoi gwybodaeth am effaith ein gwaith ymchwil.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Yr ymchwilwyr

Yr Athro Martin Innes
Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch
- innesm@caerdydd.ac.uk
- +44 29208 75307