Rhaglen Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel (LCBE) SPECIFIC 2

Nod tîm ymchwil LCBE SPECIFIC 2 yw optimeiddio ‘dull seiliedig ar systemau cyfan’ sy’n cyfuno cyflenwad ynni adnewyddadwy a thechnegau lleihau’r galw a storio ynni i greu amgylchedd adeiledig carbon isel fforddiadwy, y gellir ei efelychu.
Mae’r Tîm Ymchwil Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel (LCBE) yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru (WSA), Prifysgol Caerdydd, wedi sicrhau £3.4 miliwn i symud ymlaen gyda gweithredu technolegau carbon isel fforddiadwy y gellir eu hefelychu yn yr amgylchedd adeiledig yng Nghymru fel rhan o raglen waith SPECIFIC. Mae’r Tîm LCBE yn cydweithio â diwydiant, llywodraeth, academia a’r cyhoedd ar 18 o brosiectau arddangos i optimeiddio ‘dull gweithredu seiliedig ar systemau cyfan’, sy’n cyfuno cyflenwad ynni adnewyddadwy, technolegau lleihau’r galw am ynni a storio ynni i greu amgylchedd adeiledig carbon isel y mae modd ei efelychu, ac sy’n fforddiadwy ac yn briodol i’r cyd-destun. Mae’r buddsoddiad hwn yn rhan o brosiect £37.3 miliwn a gefnogir gan yr UE sy’n cynnwys consortiwm o sefydliadau academaidd a diwydiannol dan arweiniad Prifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, Akzo Nobel, NSG Pilkington, Tata Steel ac ystod eang o bartneriaid busnes ac academaidd eraill, a bydd yn parhau tan Mawrth 2023.
Cynnydd
Mae’r tîm LCBE yn datblygu ac yn treialu’r dull gweithredu seiliedig ar systemau cyfan, ac yn mynd ati i fodelu a monitro perfformiad ynni ac amgylcheddol ystod eang o amgylcheddau adeiledig er mwyn cynnig cyfres fforddiadwy o atebion y gellir eu hefelychu, gyda thystiolaeth o arbedion carbon, cost technolegau, cyflenwad ynni, galluoedd storio a defnydd, ac arbedion cost ynni.
Defnyddir canlyniadau monitro a modelu i lywio’r broses o wneud penderfyniadau ynghylch cyfres o atebion sydd wedi cael eu harddangos mewn ystod o adeiladau, gan gynnwys grwpiau o dai cymdeithasol ac ym meddiant y perchennog. Wedi i’r technolegau gael eu rhoi ar waith yn ymarferol, bydd y monitro’n parhau i ddarparu tystiolaeth o berfformiad amgylcheddol ac ynni ar waith.
Cyhoeddiadau
- Phil Jones, XiaoJun Li, Emmanouil Perisoglou, Jo Patterson, Five Energy Retrofit Houses in South Wales, Energy and Buildings 154 (2017), 335–42.
- Coma Bassas, Ester, Patterson, Joanne a Jones, Phillip 2020. Adolygiad o esblygiad pensaernïaeth breswyl werdd. Renewable and Sustainable Energy Reviews 125, 109796. 10.1016/j.rser.2020.109796
- Jones, Phillip, Li, Xiaojun, Coma Bassas, Ester, Perisoglou, Emmanouil a Patterson, Jo 2020. Tŷ positif o ran ynni: asesu perfformiad trwy efelychu a mesur. Energies 13 (18), 4705. 10.3390/en13184705
Staff academaidd
- Dr Jo Patterson (Arweinydd yr ymchwil)
- Dr Emmanouil Perisoglou
- Dr Shan Shan Hou
- Dr Miltiadis Ionas
- Dr Simon Lannon
Cyllid
Caiff SPECIFIC ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, ac Innovate UK ac EPSRC.