Ewch i’r prif gynnwys

Byd Diwydiant

Ar gyfer diwydiant, rydym yn darparu ffynhonnell arbenigedd, sy'n drylwyr yn academaidd ond wedi'i seilio ar gymwysiadau ymarferol.

Rydyn ni’n ffynhonnell o arbenigedd i fyd diwydiant sy'n drylwyr yn academaidd ond sydd hefyd yn seiliedig ar yr hyn sy’n ymarferol. Rydyn ni’n gweithio gyda chwmnïau bach ac ar draws holl feysydd gwella natur gylchol gweithrediadau a’r gadwyn gyflenwi gyfan, a hynny i gefnogi a hyrwyddo mentrau perthnasol, gan gynnwys dylunio cynnyrch, addasu at ddibenion gwahanol, ailweithgynhyrchu ac adnewyddu.

Mae adnoddau'r Ganolfan yn cynnwys argraffwyr 3D safonol y diwydiant, gan gynnwys gwerth £200k o beiriannau HP diwydiannol, yn ogystal ag ystod eang o uwch dechnolegau proses Gweithgynhyrchu Haen-ar-haen i gefnogi a hyrwyddo pob agwedd ar yr economi gylchol, gan gynnwys addasu at ddibenion gwahanol, ailgynhyrchu ac ailgylchu.

Cydweithio diweddar gan y diwydiant

tri dyn yn edrych ar gamera ac yn gwenu
O’r chwith i’r dde: Dr Daniel Eyers, Cyd-gyfarwyddwr, RemakerSpace; Mark Fifield, Cyfarwyddwr Ansawdd Grŵp, Glory Global Solutions a'r Athro Aris Syntetos, PARC a Chyfarwyddwr RemakerSpace.

Mae angen ar Glory Global Solutions, arweinydd ym maes datrysiadau technoleg arian parod, sicrhau y bydd cydrannau sbâr rhai o’u cynnyrch yn gallu parhau wrth i’r rhain nesáu tuag at ddiwedd eu hoes.  Dyma broblem sy’n wynebu nifer o gwmnïau wrth iddyn nhw bontio i arferion economi fwy cylchol. Helpodd RemakerSpace i Glory oresgyn y broblem drwy gynnig ateb technegol ar sail y gadwyn gyflenwi i broblem rheoli rhestrau cyflenwi’r cwmni, gan gynnwys eu helpu i ddeall hyfywedd cynhyrchu cydrannau sbâr ar alw, a hynny gan ddefnyddio gweithgynhyrchu haen-ar-haen o’r radd flaenaf.

Mae ein perthynas â RemakerSpace wedi gwella ein dealltwriaeth o'r economi gylchol yn sylweddol, ac yn enwedig felly argraffu 3D yn opsiwn posibl a realistig i weithgynhyrchu cydrannau cynhyrchu.
Mark Fifield, Glory Global Solutions

DSV A/S yw un o'r cwmnïau logisteg mwyaf yn y byd sy’n arbenigo mewn cludo nwyddau yn yr awyr, ar y ffyrdd a’r môr. Mae tîm RemakerSpace yn gweithio'n agos gyda DSV i helpu'r cwmni i ddeall sut y gall hefyd gyfuno gwasanaethau atgyweirio yn eu cadwyni cyflenwi. Mae hyn wedi arwain at benderfyniad DSV i greu gwasanaethau atgyweirio i gwsmeriaid cadwyn gyflenwi o bwys ledled y byd.

Mae pob un ohonon ni’n cydnabod bod cynaliadwyedd a chadwraeth ein planed yn hollbwysig i’n dyfodol. Mae RemakerSpace yn enghraifft wych o sut y gall y byd academaidd fod yn hynod ddefnyddiol i fyd diwydiant. Mae'n dod â manteision sylweddol i DSV heddiw, ond ar ben hynny mae'n caniatáu inni greu economi gylchol y dyfodol. Mae RemakerSpace wedi ein helpu i ddod o hyd i ysbrydoliaeth a chefnogaeth wyddonol i gyflwyno Remaker Services, sef ein gwasanaethau ein hunain.
Yr Athro Mike Wilson Executive Vice President Logistics Manufacturing Services, Executive Vice President Latin America DSV, Honorary Visiting Professor at Cardiff Business School

Mae RemakerSpace wedi helpu GIG Cymru i atgyweirio rhai o'u cynnyrch anghlinigol nad yw cydrannau sbâr bellach ar gael ar eu cyfer. Gan weithio'n agos gyda thechnegwyr y GIG rydyn ni wedi ailgynllunio, ailddatblygu a chyflenwi cydrannau sbâr ar gyfer ystod o ddyfeisiau, gan arbed miloedd o bunnoedd i'r GIG, a sicrhau bod adnoddau pwysig yn parhau i gael eu defnyddio, sef adnoddau a fyddai fel arall wedi gorfod cael eu disodli.

Sut rydyn ni’n gweithio gyda byd diwylliant

  • Ailgynllunio prosesau a chynnyrch at ddibenion cylcholdeb
  • Ailgynllunio'r gadwyn gyflenwi
  • Rhagweld a rheoli rhestrau cyflenwi
  • Dylunio systemau ailweithgynhyrchu
  • Arbenigedd ym maes Gweithgynhyrchu Haen-ar-Haen
  • Rheoli cydrannau sbâr
  • Hyfforddiant staff:
  • Gweithdai arloesi
  • Cyllid ar y cyd