Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Mae Remakerspace yn ymroddedig i yrru’r economi gylchol yng Nghymru a thu hwnt, a’i nod yw cynyddu ymwybyddiaeth o fanteision ailddefnyddio, atgyweirio ac ailbwrpasu er mwyn ymestyn cylchoedd oes cynnyrch.

Mae gan y Ganolfan ystod eang o gyfleusterau, gan gynnwys labordy argraffu 3D o safon y diwydiant, gydag amrywiaeth eang o dechnolegau proses Gweithgynhyrchu Adiol uwch. Mae gennym hefyd ofod delweddu, sy'n cynnwys clustffonau realiti rhithwir o'r radd flaenaf i gefnogi ein defnyddwyr wrth ddylunio ac atgyweirio gyda phrototeipio rhithwir. Ategir y cyfleusterau uwch hyn gan ‘weithdy’ llawn stoc ac amrywiaeth o offer a chyfarpar traddodiadol, gan gynnwys gwaith coed, offer atgyweirio a phrofi trydanol a pheiriannau gwnïo diwydiannol a domestig!

Rydym yn cydweithio â thri grŵp ffocws ac yn darparu’r sgiliau a’r offer sydd eu hangen i ddatblygu cyfleoedd newydd yn seiliedig ar wasanaethau ail-weithgynhyrchu ac atgyweirio:

  • Cymunedau: Rhoi mynediad i gyfleusterau ail-weithgynhyrchu ar gyfer grwpiau cymunedol Cymreig, elusennau, awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector eraill
  • Dysgwyr: Rhoi mynediad i gyfleusterau ail-weithgynhyrchu i gyfoethogi profiadau myfyrwyr (ysgolion, colegau, prifysgolion) yn yr economi gylchol
  • Busnesau yng Nghymru (neu gyda chadwyni cyflenwi yng Nghymru): Cynnig hyfforddiant, cefnogaeth, a rhwydweithio o ran cysyniadau am ail-weithgynhyrchu a’r economi gylchol yn ehangach
Remakerspace Workshop
Remakerspace 3d image lab