Llyfrau
Mae'r llyfrau hyn sy'n trafod pensaernïaeth a diwylliant temlau yn India yn ffrwyth blynyddoedd lawer o ymchwil yn y maes hwn.
Theory and Practice of Temple Architecture in Medieval IndiaTeitl llawn: Theory and Practice of Temple Architecture in Medieval India: Bhoja's Samaranganasutradhara and The Bhojpur Line Drawings
Awdur: Yr Athro Adam Hardy
Dyddiad cyhoeddi: Awst 2015
Cyhoeddwr: Dev Publishers and Distributors
ISBN-10: 9381406413
ISBN-13: 978-9381406410

Cyfrol am vastuvidya neu ddamcaniaeth bensaernïol, creu temlau, a rôl darluniau fel pont anhepgor rhwng y ddau. Mae'n canolbwyntio ar ddau fyd a briodolir i Bhoja, teyrnasiad chwedlonol Paramara ym Malwa yn hanner cyntaf yr unfed ganrif ar ddeg. Y cyntaf o'r rhain yw ei deml frenhinol uchelgeisiol, ond anorffenedig, yn Bhojpur gyda'i set unigryw o luniadau pensaernïol wedi'u hengrafu yn y creigiau cyfagos.
Mae'r lluniau prydferth hyn, a gofnodir yma am y tro cyntaf, yn cynnig dealltwriaeth o'r prosesau adeiladu a chipolwg ar ffurfiau teml oedd cyn hyn yn anhysbys. Mae'r rhain hefyd yn cynnwys yr allwedd i'r cynllun a fwriadwyd ar gyfer teml Bhojpur ei hun, a fyddai wedi bod y deml Hindŵaidd fwyaf yn y byd o bell ffordd.
Mae Theory and Practice of Temple Architecture in Medieval India ar gael i'w brynu ar Amazon.
The Temple Architecture of India
Awdur: Yr Athro Adam Hardy
Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2007
Cyhoeddwr: John Wiley & Sons
ISBN-10: 0470028270
ISBN-13: 978-0470028278

Temlau India yw un o draddodiadau pensaernïol mawr y byd. Fe'i hadeiladwyd ar gyfer addoli Hindŵaidd, Bwdhaidd a Jainaidd, ac maent yn ddihafal yn y ffordd y maent yn cyfuno apêl synhwyrus uniongyrchol a strwythur ffurfiol cymhleth.
Mae'r gyfrol hon yn esbonio egwyddorion a phrosesau sylfaenol dyluniad yr henebion hyn, gan gynnig cefndir hanesyddol hanfodol a gosod y bensaernïaeth yn ei chyd-destun diwylliannol a chrefyddol. Mae'n olrhain tarddiad a ffurf y ddwy iaith 'bensaernïol' glasurol yn India - Nagara yn y gogledd a Dravida yn y de - a'u datblygiad rhyfeddol o amrywiol yn ystod oes aur codi temlau rhwng y 6ed a'r 13eg ganrif.
Mae'r gyfrol yn bwrw golwg ar fywiogrwydd parhaus y systemau hyn hyd at y presennol, ac yn archwilio'r gwersi y gellir eu dysgu ohonynt gan benseiri ac artistiaid heddiw.
Mae The Temple Architecture of India ar gael i'w brynu ar Amazon.