Ewch i’r prif gynnwys

Prosiectau

Mae ein prosiectau yn integreiddio ymchwil academaidd ac ymarfer creadigol ac yn canolbwyntio ar bensaernïaeth, celfyddydau gweledol a diwylliant materol.

Prosiectau ymchwil

Prosiectau presennol

The Nagara Tradition of Temple Architecture: Continuity, Transformation, Renewal

An examination of the transformations and renewals of an architectural tradition across a millennium and a half in India to see how past and present can be studied both for their own sakes and for their mutual illumination.

Mae’r prosiect yn deillio o faterion brys o ran treftadaeth gynhennus yng nghyfadeiladau mawr, byw y temlau wrth wraidd dinasoedd Tamil Nadu sy’n tyfu’n gyflym.

Crynodeb

Rydym yn archwilio dwy ddinas demlau wrthgyferbyniol yn Tamil Nadu, sef Madurai a Kumbakonam, i ymateb i bryderon am y ffyrdd mae rhai temlau gweithredol yn cael eu hadfer. Rhaid i ganllawiau ystyried rhagnodiadau traethodau defodol a phensaernïol Sansgrit hynafol, sy’n cael eu parchu’n fawr er nad ydynt yn cael eu deall yn ddigonol.

Nod y prosiect yw darparu corff ymchwil awdurdodol i gyfeirio canllawiau cynhwysol a chynaliadwy ar gyfer cadwraeth a rheolaeth treftadaeth yn y dinasoedd temlau. Rydym yn llunio hanes pensaernïaeth, lleoliadau trefol a chyfnodau adfer adeileddau cynrychioliadol y temlau ar sail ymchwil dda, ac esbonio’r gwahanol naratifau a safbwyntiau am y safleoedd hyn. Mae natur gwaith adfer diweddar yn cael ei gwerthuso. Mae testunau Sansgrit yn cael eu hastudio i gael trosolwg o’u cyfarwyddiadau perthnasol, ac i ddangos sut mae eu cysyniadau damcaniaethol yn ymwneud ag arfer dylunio a chadwraeth temlau mewn gwirionedd.

Nodau ac amcanion

Nod cyffredinol y prosiect yw darparu corff ymchwil awdurdodol i gyfeirio canllawiau cynhwysol a chynaliadwy ar gyfer cadwraeth a rheolaeth treftadaeth yn ninasoedd temlau byw Tamil Nadu, India, gan ganolbwyntio ar Madurai a Kumbakonam.

  • Cyflwyno dealltwriaeth sylweddol o ddatblygiad pensaernïol a threfol y temlau dan sylw, gan gynnwys gwaith adfer ac ailadeiladu yn y gorffennol.
  • Datblygu trosolwg diacronig o’r defnydd crefyddol a defodol ar y lleoedd dan sylw.
  • Cyfleu’r safbwyntiau a’r naratifau amrywiol sy’n ymwneud â’r lleoedd a’r adeileddau hyn.
  • Deall natur wirioneddol gwaith adfer ac ymyriadau diweddar yn y temlau a chymdogaethau’r temlau.
    Dadansoddi’r trefluniau sanctaidd (sydd yn aml yn gorgyffwrdd ac yn gwrthdaro) sy’n cysylltu’r prif demlau i adeileddau a lleoedd eraill.
  • Nodi, coladu, cyfieithu a dehongli gwaharddiadau Agamig a Shastrig sydd ar gael ar atgyweirio ac adfer temlau yn eu cyd-destun testunol ehangach.
  • Dadansoddi’r berthynas rhwng damcaniaeth destunol ac arfer gwirioneddol o ran adeiladu ac adnewyddu temlau, yn y gorffennol ac ar hyn o bryd.
  • Creu modelau digidol i grynhoi canfyddiadau ymchwil, darparu data ar gyfer dadansoddiad pensaernïol a’u defnyddio fel dull o gael a chyfleu safbwyntiau amrywiol y gymuned a rhanddeiliaid.

Cefndir

Mae’r prosiect yn deillio o faterion brys yng nghyfadeiladau mawr, byw y temlau wrth wraidd dinasoedd Tamil Nadu sy’n tyfu’n gyflym. Mae’r rhain yn drysorau pensaernïol, yn safleoedd ffyniannus ar gyfer addoli, defodau a gwyliau, yn ganolfannau ar gyfer canghennau diwylliant amrywiol ac yn hybiau ar gyfer yr economi, twristiaeth a phererindota, oll ar yr un pryd.

Twristiaeth a phererinion

Mae twristiaeth yn cynyddu, ond twristiaeth ddomestig a phererinion sy’n cyfrif am y prif dwf yn y niferoedd. Mae ffyrdd newydd, cwmnïau awyrennau cost isel a phresenoldeb cyfryngau cymdeithasol wedi galluogi nifer cynyddol o bererinion i ymweld â’r safleoedd sanctaidd hyn, yn benodol yn ystod gwyliau crefyddol blynyddol pan fo temlau a’u lleoliadau trefol fod dan eu sang.

Mewn rhai temlau, mae cysegrau a phyrth hynafol wedi cael eu dymchwel a’u hailadeiladu, mae waliau amgáu uchel wedi cael eu tynnu i lawr neu eu ‘sythu’ ac mae neuaddau colofnog newydd wedi cael eu codi. Mewn temlau prysurach, mae ffensys metel wedi cael eu codi yn y lloriau gwenithfaen i reoli symudiad pererinion, neu lechi marmor wedi cael eu smentio dros arysgrifau mil o flynyddoedd oed. Mae sgwrio gwaith cerrig â thywod yn ddi-drefn wedi dileu olion murluniau prin o’r 17eg ganrif/18fed ganrif neu wedi difrodi cerfluniau cerfwedd. Mae pa mor helaeth mae rhai temlau wedi cael eu trawsnewid wedi siomi archeolegwyr y llywodraeth a rhai cymunedau selogion, ond mae lleisiau eraill yn blaenoriaethu defnydd crefyddol dros bryderon pensaernïol.

Agamas a Shilpashastras

Ar wahân i ddeddfau a chanllawiau cadwraeth sefydledig, elfen gyfryngol arall (a allai fod yn gynhennus) yw awdurdod parhaus testunau crefyddol a phensaernïol Sansgrit (Agamas a Shilpashastras) sy’n ymdrin ag adnewyddu temlau yn ogystal â defodau a dylunio. Mae awdurdod y testunau hyn, a ystyrir yn ddwyfol eu tarddiad, wedi’i ymddiried i’r offeiriaid/ysgolheigion Brahmin (acharyas), ond hefyd i’r pensaer etifeddol (sthapati) (sy’n aml yn ffigur gwrthwynebus).

Adran Gwaddolion Crefyddol ac Elusennol Hindŵaidd

Mae’r rhwydwaith rhanddeiliaid yn gymhleth. Un sefydliad sy’n chwarae rhan ganolog ynddo yw’r Adran Gwaddolion Crefyddol ac Elusennol Hindŵaidd (HR&CE), a sefydlwyd gan lywodraeth y dalaith ar ei ffurf bresennol ym 1960 i oruchwylio gwaith gweinyddu a chynnal a chadw temlau, sy’n gyfrifoldeb offeiriad yn ôl traddodiad. Honnir mai gwarchodwr treftadaeth mwyaf y byd ydyw, a hithau’n rheoli dros 36,000 o demlau. Oherwydd pryder yn sgil nifer o brosiectau adfer ansensitif, mae grwpiau o selogion wedi dwyn achosion llys yn erbyn yr Adran HR&CE. Yn y cyd-destun hwn, cyfarwyddwyd UNESCO gan Uchel Lys Madras yn 2016 i werthuso’r gweithgarwch cadwraeth a oedd yn cael ei wneud. Comisiynodd UNESCO (Delhi) y sefydliad treftadaeth DRONAH, dan arweiniad Shikha Jain (Col), i gynnal archwiliad i ddod o hyd i’r ffeithiau. Deilliodd ein prosiect o’r angen am astudiaeth academaidd i fod yn sail i bolisi a chanllawiau.

Ariennir gan

Gronfa Newton Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil Hanesyddol India (ICHR). Dyddiad dechrau: 2018

Cydweithredwyr

Mae’r prosiect yn gydweithrediad rhwng Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Ysgol Astudiaethau’r Dwyrain ac Affrica (SOAS), Ysgol Cynllunio a Phensaernïaeth (SPA) Bhopal a Sefydliad DRONAH.

Arweinwyr y Prosiect

Yr Athro Adam Hardy

Yr Athro Adam Hardy

Emeritus Professor

Email
hardya@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5982
Yr Athro Oriel Prizeman

Yr Athro Oriel Prizeman

Personal Chair

Email
prizemano@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5967

Prosiectau blaenorol

An archtectural drawing of the Temple of Ashapuri, India.

Temlau Ashapuri

Astudiaethau dichonoldeb ar gyfer adfer, cadwraeth a chyflwyniad tua chwech ar hugain o demlau canoloesol adfeiliedig yn Ashapuri.

Prosiectau dylunio

Prosiectau presennol

Prosiectau blaenorol